Cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant
Jaqueline Pearson, sy'n treulio ei blwyddyn mewn diwydiant yn Georgia yn yr UDA.
26 Mawrth 2007
Cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae'r Cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle am brofiad unigryw ac amhrisiadwy ar gyfer myfyrwyr Aberystwyth, lle mae nhw'n cael y cyfle i dreulio blwyddyn yn gweithio i gwmni rhwng eu hail a’u trydedd blwyddyn. Gall myfyrwyr o unryw adran wneud cais am waith mewn unryw faes yn y Deyrnas Gyfunol neu dramor.
Bob blwyddyn, gall myfyrwyr o Aberystwyth gymryd rhan yn y cynllun, a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn pob math o feysydd ar draws y byd.
Un o’r myfyrwyr yma yw Jaqueline Pearson, sy’n treulio ei blwyddyn mewn diwydiant yn Georgia yn yr UDA.
“Rydw i’n astudio Gwyddor Amgylcheddol ac roeddwn i eisiau gweithio mewn Addysg Amgylchedd. Cefais e-bost gan y swyddfa am le yn Georgia, UDA, o’r enw Canolfan Rock Eagle 4-H a ddaliodd fy sylw. Roedd y swydd yn edrych yn berffaith a penderfynais wneud cais amdani. Bu’r swyddfa BMG yn gymorth i drefnu cyfweliad dros y ffôn ac yn hwyrach i lenwi fy nghais visa. Y peth gwych am y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith yw fod y Brifysgol wir eisau i bobl fanteisio ar y cyfle i dreulio blwyddyn mewn gwaith yn ystod eu gradd, felly mae pawb yn gymorth mawr.
“Rydw i nawr hanner ffordd trwy fy swydd a dwi’n cael amser anhygoel. Rydw i’n addysgwr yr amgylchedd yn dysgu plant, yn bennaf rhwng 7 a 14 oed, gyda dosbarthiadau yn amrywio o ecoleg llyn a nant i declynau arloeswyr a chanwio. Rydw i wedi dysgu sut mae trin aligatoriaid ifanc ac adar ysglafaethus bychain. ‘Dwi wedi cael hyfforddiant rhaff uchel ac yn medru dysgu am Americanwyr Brodorol. ‘Dwi wedi gwneud cymaint o ffrindiau a sgiliau newydd, gan gynnwys sgiliau arwain a’r hyder i siarad o flaen eraill.
“Dydw i ddim yn meddwl allai wir grynhoi manteision y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, dramor neu yn y DU. Mae’n fwy na rhywbeth sy’n edrych yn dda ar y CV. Os ydych chi’n dewis swydd rydych chi wir eisiau all fod yn brofiad bythgofiadwy, ac mae’r Brifysgol yn rhoi llawer o annogaeth a chefnogaeth.”
Mae nifer o fyfyrwyr Aberystwyth wedi cael swydd yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Un o’r rhain yw Rachel McMahon, myfyrwyr Geneteg yn yr ail flwyddyn o Stafford yng Nghanolbarth Lloegr, fydd yn mynd i weithio i gwmni GlaxoSmithKline.
“Dewisiais wneud y Flwyddyn mewn Diwydiant achos bydd e’n edrych yn dda ar y CV, a hefyd mae siawns y bydd y cwmni yn cynnig swydd barhaol i fi ar ôl i fi orffen fy ngradd. Y gobaith yw y bydd y sgiliau y byddaf yn eu magu o’r swydd yn ddefnyddiol i fi yn fy nhrydedd blwyddyn wrth i mi gwblhau fy nhraethawd hir. Roedd y gwasanaeth gyrfau o gymorth mawr yn drafftio a gwella ar enghreifftiau o atebion ar gyfer y cwestynnau cais pan yn ceisio am y swydd.
“Mae’r swydd wedi ei lleoli yn Greenford yng Ngorllewin Llundain a dwi wir yn edrych ymlaen i ddechrau ond mae meddwl am drefnu llety yn Llundain a symud yno yn frawychus! Teitl fy swydd yw Gwyddonydd Ymchwil Clinigol a byddaf yn dylunio ac yn cynnal profion protocol cyffuriau yna’n gwneud adroddiad.
Mae Jay Thakrar yn fyfyriwr Economeg yn yr ail flwyddyn yn Aberystwyth. Mae wedi sicrhau swydd gyda Gwasanaeth Economeg y Llywodraeth sydd wedi ei leoli yng nghanol Llundain.
“Dewisais wneud blwyddyn mewn diwydiant yn bennaf o ganlyniad i’r pwysau cynyddol o gyfleoedd cyfyngedig i raddedigion ar ôl gadael y Brifysgol ac mae gwneud blwyddyn mewn diwydiant yn fy ngwneud yn fwy deiniadol i gyflogwyr o ganlyniad i’m mhrofiad. Mae’r ffactor o gael fy nhalu hefyd yn bwysig, bydd hyn yn gymorth mawr i mi wrth dalu am fy mlwyddyn olaf a’r teithio dwi eisiau gwneud ar ôl graddio.
“Dwi wir yn edrych ymlaen i wneud y swydd achos byddaf yn dysgu llawer am yr hyn dwi’n astudio ac yn cael cyfle i ddefnyddio’r theori dwi’n dysgu yn y dosbarth yn y gweithle. Gan y byddaf yn gweithio mewn adran cyfathrebu a llywodraeth leol bydd fy ngwaith yn bennaf yn cynnwys gwaith dadansoddi ar dai, adnewyddu trefol, cynllunio a llywodraeth leol.”
Dylai unrhywun sydd gyda diddordeb i wneud blwyddyn mewn diwydiant gysylltu gyda Joanna Bullock yn Swyddfa Blwyddyn mewn Diwydiant ar jeb@aber.ac.uk neu yes-office@aber.ac.uk