Lansio Partneriaeth o Safon Fyd-Eang
Yr Athro Noel Lloyd, Is Ganghellor Prifysgol Cymru, Aberystwyth a'r Athro Merfyn Jones, Is Ganghellor Prifysgol Cymru, Bangor.
08 Mawrth 2007
Dydd Iau 8 Mawrth 2007
Lansio Partneriaeth o Safon Fyd-Eang
Cynhaliwyd lansiad swyddogol y Bartneriaeth Ymchwil a Menter rhwng Prifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA) a Phrifysgol Cymru, Bangor (PCB), ar 7 Mawrth yn adeilad Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd y cydweithrediad arloesol hwn yn adeiladu ar fri a gallu ymchwil y ddwy brifysgol. Bydd yn creu canolfan ymchwil gynaliadwy o safon fyd-eang yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, a fydd yn gallu gweithredu'n lleol a rhyngwladol.
Bydd y Bartneriaeth yn cael bron i £11 miliwn gan Gronfa Ailgyflunio a Chydweithredu drwy law Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd ganddi strwythur rheoli ymchwil ar y cyd a buddsoddiadau ar feysydd academaidd lle mae gan y sefydliadau synergedd ymchwil.
Bwriad y prifysgolion yw creu perthynas strategol a chynaliadwy yng nghyd-destun ymchwil, sy'n ymwneud ag amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan newid y tirwedd ymchwil a thrwy hynny, hybu eu perfformiad cystadleuol rhyngwladol
Wrth wneud sylw am y lansiad swyddogol, dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r Bartneriaeth Ymchwil a Menter yn ddatblygiad cyffrous ac arwyddocaol iawn i’r prifysgolion. Yn ogystal â manteision academaidd, bydd yn hyrwyddo datblygiad cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Rwy’n sicr y bydd y bartneriaeth yn amhrisiadwy”.
Wrth wneud sylw am y cydweithredu, dywedodd Is-Ganghellor PCA, Noel Lloyd: “Mae gan y ddau sefydliad hanes hir a nodedig o ymgymryd ag ymchwil sydd ar flaen y gad. Bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi ni i ddatblygu proffil rhyngwladol mwy blaenllaw”.
Wrth wneud sylw cyn y lansiad, dywedodd Is-Ganghellor PCB, Merfyn Jones: “Bydd y bartneriaeth hon yn galluogi’r prifysgolion i fynd o nerth i nerth. Mae’n ymdrech tymor hir a fydd yn fuddiol y tu hwnt i’r fframwaith academaidd hefyd”.