'Climate change from a geological perspective'
Yr Athro Mike Hambrey
06 Mawrth 2007
‘Climate change from a geological perspective'
Rhewlifegydd o Aberystwyth i roi darlith gyhoeddus fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant Cymdeithas Rhewlifegol Llundain
Mae'r Athro Mike Hambrey o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn un o rhestr o siaradwyr adnabyddus sydd wedi eu gwahodd i draddodi darlith gyhoeddus fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant Cymdeithas Ddaearegol Llundain.
Teitl ei ddarlith gaiff ei thraddodi yn Nhŷ Burlington, pencadlys y Gymdeithas Ddaearegol yn Llundain, ar yr 20fed o Fawrth, fydd ‘Climate change from a geological perspective’.Hon fydd y drydedd yng Nghyfres Darlithoedd Shell Llundain.
Mewn cyflwyniad i’w ddarlith, ysgrifennodd Yr Athro Hambrey:
“Yn y dyddiau yma o ofidio am gynhesu byd-eang o ganlyniad i weitharedd ddynol, mae yna fudd mewn deall sut mae hinsawdd y Byd wedi esblygu ers i greigiau ddechrau arddangos neges hinsoddol, bron i 3000 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn y sgwrs yma byddwn yn astudio achosion naturiol newid hinsawdd, ac yn archwilio’r cofnod anghyflawn o esblygiad yr hinsawdd ers yr amser hynny. Byddwn yn canolbwyntio ar gyfnodau o rewi yn y gorffennol, yr elfen sydd yn dylanwadu fwyaf ar hinsawdd y byd. Er enghraifft, newidiadau ym maint haenau ia sydd wedi gyrru newidiadau yn lefel y môr, a nhw, hyd yn oed, oedd yn gyfrifol am y dilyniant cylchol gwaddodol mewn ardaloedd cyn-gyhydeddol (fel Prydain) a achosodd y Chwildro Diwydiannol.”
“Gan ganolbwyntio ar y cyfnod rhewlifegol mwyaf diweddar, y ‘Cenozoic’, mae’r cofnod sydd yn dangos fod y ddaear wedi oeri dros y 65 miliwn o flynyddoedd diwethaf yn hynod berthnasol i wareiddiad dynol, yn enwedig mewn perthynas â chyfeiriad at dyfiant ac adfeiliad haenau iâ, a’r amrywiad cyfatebol yn lefel y môr. Yn enwedig, cofnod gwaddodol Cenozoic yn tarddi o lechweddau cyfandirol o ledred uchel sy’n dangos i ni sut mae haenen iâ yr Antarctig wedi esblygu o’i thyfiant gwreiddiol mewn cyfnod o dymhered cymhedrol tua 35 miliwn o flynyddoedd yn ôl, i’r amgylchedd oer sydd yn bodoli heddiw ar y ddau begwn.”
Ymunodd Yr Athro Hambrey gyda Phrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1997 ac fe’i benodwyd yn Reolwr y Ganolfan Rewlifeg yn 1998. Dyfarnwyd y ‘Polar Medal’ iddo gan y Frenhines yn 1989 ac yn Rhagfyr 2006 cafodd cyfres o glogwyni eu henwi ar ei ôl mewn cydnabyddiaeth am ei waith ymchwil daearegol a rhewlifegol yn yr Antarctig a’r Arctic. Mae Clogwyni Hambrey ar Ynys James Ross yn yr Antarctig.
Yn ystod ei yrfa ymchwil o 30 mlynedd mae’r Athro Hambrey wedi canolbwyntio yn benodol ar strwythur a deinameg rhewlifau, cofnod rhewlifol Cyn-Pleistosenaidd y Ddaear, proses gwaddodol rhewlifol modern a hanes rhewlifol yr Antarctig a Chymru. Enillodd ei lyfr Glaciers y Wobr am Gyhoeddiad Rhagorol gan Gyhoeddwyr Gwyddoniaeth Daear yn 1995. Mae wedi bod yn olygydd Journal of Glaciology (1995-2001) a Journal of Geological Society (1997-2000), ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Palaeogeography, Palaeoclimatology and Palaeoecology (1987-97).
Yn ddiweddar, cwblhaodd y gwaith golygu ar Gyhoeddiad Arbennig o’r International Association of Sedimentologists on Glacial Sedimentary Processes and Products. Mae’n aelod o nifer o bwyllgorau cenedlaethol, ac yn cadeirio grŵp gwaith y Comisiwn IUGG ar y Gwyddorau Cryospheric. Mae’n frwd i hybu dealltwriaeth y cyhoedd o wyddoniaeth ac mae wedi datblygu y wefan boblogaidd www.glaciers-online.net ar y cyd gyda cyd-weithiwr o’r Swistir.
Cymdeithas Daeareg Llundain, gafodd ei sefydlu yn 1807, yw cymdeithas genedlaethol wyddoniaeth a chymdeithas broffesiynol hynaf y byd ar gyfer gwyddonwyr Daear.