Eisiau gwybod mwy am ynni adnewyddadwy?
Chwith i'r Dde: Roger Morel o Cylch Gwyddoniaeth a Jon Parker, Rheolwr Technium Aberystwyth, gyda Labordy Symudol y Cylch Gwyddoniaeth.
18 Mehefin 2007
Dydd Llun 18 Mehefin, 2007
Eisiau gwybod mwy am ynni adnewyddadwy?
Cynhelir yr olaf mewn cyfres lwyddiannus iawn o weithdai ar Ynni Adnewyddadwy yn y Lanfa yn Nhrefechan, Aberystwyth, ddydd Iau 21 Mehefin rhwng 1 a 3.30 y prynhawn.
Trefnwyd yn gweithdy gan Cylch Gwyddoniaeth Prifysgol Cymru, Aberystwyth mewn cydweithrediad â Ymlaen Ceredigion a Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion.
Y bwriad yw cynnig gwybodaeth am gyrsiau a grantiau sydd ar gael i bobl sydd eisiau dysgu mwy am ynni adnewyddadwy.
Cynhelir y digwyddiad gan Technium Aberystwyth.
Roger Morel yw Swyddog Prosiect y Cylch Gwyddoniaeth
“Dyma'r olaf yn y gyfres o ddigwyddiadau ar Ynni Adnewyddadwy sydd wedi eu cynnal drwy Ceredigion ac sydd wedi cael llawer o ymateb da ac wedi trafod gyda dros 120 o bobl.”
“Pwrpas y cylch Gwyddoniaeth, sydd wedi derbyn cyllid Ewropeaidd, yw mynd â gwyddoniaeth at garreg drws pobl Ceredigion. O ganlyniad i lwyddiant y cynllun cafodd ei ymestyn am 8 mis pellach, tan ddiwedd Ionawr 2008. Mae hwn yn newyddion da iawn ac yn ein galluogi i gyrraedd llawer mwy o bobl yng Ngheredigion. Gall y Cylch Gwyddoniaeth fod yn allwedd i ddatgloi dyfodol gwell i bawb.”
Mae gan y Cylch Gwyddoniaeth labordy symudol gyflawn sydd yn gallu teithio Ceredigion, a chynnig rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau, cyrsiau blas a chyrsiau byr ar gyfer dechreuwyr mewn ystod eang o feysydd gwyddoniaeth. Mae'r cyrsiau wedi eu hanelu at oedolion dros 16, ond mae cyfle i’r teulu i gyd ymuno yn gweithgareddau mewn digwyddiadau lleol. Mae gweithgareddau’r Cylch Gwyddoniaeth i gyd yn rhad ac am ddim.
"Does dim gwahaniaeth os yw gwyddoniaeth yn fyd newydd i chi – neu eich bod heb fwynhau’r pwnc yn yr ysgol! Efallai eich bod am ddysgu mwy am drafodaethau gwyddonol neu eisiau deall y wyddoniaeth mae eich plant yn dysgu amdani yn yr ysgol. Gall y Cylch Gwyddoniaeth fod o fudd i chi os ydych yn gweithio mewn cadwraeth, technoleg bwyd, ynni cynaliadwy neu iechyd,” ychwanegodd Roger.
Mae manylion pellach am y Cylch Gwyddoniaeth ar gael ar 01970 628604, 01970 621890 neu drwy e-bost rgm@aber.ac.uk .