'Y Tîm Delfrydol' i lunio The Oxford Literary History of Wales
Dr Damian Walford Davies
13 Mehefin 2007
‘Y Tîm Delfrydol' i lunio The Oxford Literary History of Wales
Penodwyd Dr Damian Walford Davies o Adran Saesneg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn Olygydd Cyffredinol ar The Oxford Literary History of Wales (OHLW) a gomisiynwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen.
Mae Dr Walford Davies wedi trefnu ‘tîm delfrydol' o ysgolheigion o Brifysgol Cymru Aberystwyth, Prifysgol Cymru Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Abertawe i gynhyrchu’r pedair cyfrol.
Dyma’r pedair cyfrol a’r awduron:
1. Welsh Literature in Welsh, from its beginnings to c. 1740.
Awduron: Jerry Hunter (Bangor) a Dylan Foster Evans (Caerdydd).
2. Welsh Literature in Welsh, c. 1740–2006.
Awdur: T Robin Chapman (Aberystwyth).
3. Welsh Writing in English, 1536–1914,
Awduron: Jane Aaron (Morgannwg) a Sarah Prescott (Aberystwyth).
4, Welsh Writing in English, 1914–2006.
Awduron: Damian Walford Davies (Aberystwyth) a Daniel G. Williams (Abertawe).
Yn ôl Dr Walford Davies, mae’r prosiect hwn ag arwyddocâd diwylliannol mawr a fydd yn dod â dwy lenyddiaeth Cymru at sylw cynulleidfa ryngwladol, a’u rhoi mewn goleuni hollol newydd. Mae hefyd yn waith cydweithredol pwysig – ac amserol – rhwng sefydliadau academaidd yng Nghymru.
“Mae’r OLHW yn gyfle arwyddocaol i ailasesu dau draddodiad llenyddol Cymru o’r chweched ganrif hyd heddiw. Mae’n cyflwyno safbwyntiau awdurdodol, treiddgar ac anghydsyniol. A hwythau’n fywiog ac â barn bendant, bydd y pedair cyfrol yma yn herio uniongrededd ac yn cynnig hanesion llenyddol amgen, fel y gallai portreadau newydd hanfodol o’r cynnyrch llenyddol a’r cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ddatblygu. Yn ei dull a’i hymdriniaeth feirniadol a hanesyddol, mae’r OLHW yn gwrthod y dogmatig a’r monolithig; croesewir ysbryd o luosogrwydd ac amheuaeth iach. Mae ethos y prosiect yn adolygiadol, ond bydd yr ymdriniaeth yn gynhwysfawr ac awdurdodol,” dywedodd.
“Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth a’r tyndra egnïol rhwng yr honiadau o arwahanrwydd a chymhathiad, parhad ac ailddyfeisio, yr ‘ymyl’ a’r canol metropolitan yn ysbrydoli’r drafodaeth ar ei hyd. Sut mae gweithiau ysgrifenedig o Gymru wedi ‘siarad ar ran’ pobl Cymru, a pha ddelweddau o wahaniaeth cenedlaethol a diwylliannol sydd ar gael o ganlyniad i’r gweithiau hyn? Beth oedd perthynas awduron Cymru yn y ddwy iaith i ganolfannau o ‘bŵer’ diwylliannol, gwleidyddol a llenyddol? Sut mae’r ddwy lenyddiaeth wedi gosod Cymru a mater Cymru a’i pherthynas â’r cymydog trechol ac ag Ewrop, America a gweddill y byd? Sut mae’r llenyddiaethau hyn wedi dangos newid cymdeithasol a gwleidyddol?”
“Wrth ymdrin â chwestiynau o’r fath, mae’r OLHW yn cynnig map newydd hanfodol i ddwy lenyddiaeth y mae eu bodolaeth yn herio ein rhagdybiaethau am y berthynas rhwng iaith, cenedligrwydd a hunaniaeth,” ychwanegodd.