Llyfr y Flwyddyn
Dr Robin Chapman
12 Mehefin 2007
Llyfr y Flwyddyn
Cyhoeddwyd fod Un Bywyd o Blith Nifer, cyfrol Dr Robin Chapman o Adran y Gymraeg am y gwleidydd a'r dramodydd Saunders Lewis, yn un o dair sydd ar restr fer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
Trefnir y gystadleuaeth gan Yr Academi Gymreig, Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru, ac mae'r wobr yn cael ei dyfarnu i’r llyfr Cymraeg a’r llyfr Saesneg gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol. Cyhoeddir yn enillwyr, a fydd yn derbyn siec am £10,000, mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar 9 Gorffennaf.
Cafodd rhestr fer y ddwy gystadleuaeth eu cyhoeddi yn ystod Gwyl y Gelli ddiwedd mis Mai.
Y dair gyfrol Gymraeg yw:
T Robin Chapman, Un Bywyd o Blith Nifer (Gwasg Gomer)
Gwen Pritchard Jones, Dygwyl Eneidiau (Gwasg Gwynedd)
Llwyd Owen, Ffydd Gobaith Cariad (Y Lolfa)
Y cyfrolau Saesneg yw:
Christine Evans, Growth Rings (Seren, 2006)
Lloyd Jones, Mr Cassini (Seren, 2006)
Jim Perrin, The Climbing Essays (The In Pinn, 2006)
Brodor o Gaerlŷr yw T Robin Chapman sydd bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth. Cyrhaeddodd ei gyfrol gofiannol ar Islwyn Ffowc Elis, Rhywfaint o Anfarwoldeb, Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2004.
Crynodeb o’r Llyfr
’Ni feddyliais erioed, ac ni feddyliaf yn awr fod defnyddiau cyfanwaith yn fy mywyd gwibiol i.’ Chwarter canrif wedi’r datganiad nodweddiadol ysgubol hwnnw gan Saunders Lewis yn 1980, dyma wrthbrofi’n ddisglair a chroyw’r geiriau hynny.
Roedd Saunders Lewis, un o Gymry mwyaf enigmatig a dadleuol yr ugeinfed ganrif, yn sypyn o wrthosodiadau: y milwr dewr a arweiniai blaid o heddychwyr; y bonheddwr diwreiddiau a ysgogodd werin wladgarol; y Pabydd tanbaid ymhlith Anghydffurfwyr cynyddol lugoer; y llenor a’r dramodydd a gyfaddefai nad oedd yn berchen ar dafodiaith ac na chredai fod cynulleidfa ar gyfer ei ddramâu. Ac eto, daeth y dieithryn hwn yn eicon Cymreig, a’i enw’n gyfystyr ag ymrafael ac eithafiaeth, ag aberth ac arwriaeth.
Adeg marw Lewis yn 1985 ysgrifennodd Rheinallt Llwyd yn Llais Llyfrau: ’Gorau po gyntaf...y cawn ni astudiaeth lawn a chytbwys o’i waith. Hynny’n unig fyddai’n deyrnged addas iddo.’ Bellach, telir y deyrnged honno yn y cofiant meistraidd hwn gan brif gofiannydd Cymru, T. Robin Chapman.
Un Bywyd o Blith Nifer gan T. Robin Chapman (Gwasg Gomer, 2006) £19.99 [ISBN: 1843237091]
Panel beirniaid y wobr Cymraeg yw’r nofelydd a’r beirniad John Rowlands; y bardd, dramodydd a’r awdur Gwion Hallam; a’r ddarlledwraig a gyflwynwraig Elinor Jones. Y tri beirniad iaith Saesneg yw’r bardd a’r beirniad, Patrick McGuinness; y golygydd, academydd a’r beirniad Katie Gramich, a’r newyddiadurwraig a’r ddarlledwraig, Carolyn Hitt.