Darlledu seremonïau graddio
Graddio yn Aberystwyth
06 Gorffennaf 2007
Darlledu'n fyw o'r seremonïau graddio am y tro cyntaf
Bydd seremonïau graddio Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn cael eu darlledu yn fyw ar y rhyngrwyd eleni. Cynhelir y seremoniau rhwng dydd Mawrth 10 a dydd Gwener 13 Gorffennaf.
Bydd aelodau teulu a chyfeillion sydd ddim yn medru mynychu’r seremonïau yn gallu dilyn y cyfan ar lein drwy glicio ar Y Seremoniau Graddio yn y golofn dde yn y dudalen hon.
Eleni am y tro cyntaf mae’r Brifysgol yn cydweithio gyda chwmni Success Photography i gynnig recordiadau DVD o’r gwahanol seremonïau. Y pris fydd £15 a gellir gosod archebu ar-lein ar y wefan drwy glicio ar DVD or Seremoniau Graddio yn y golofn dde o'r dudalen hon.
Dyma drefn y seremonïau os ydych yn dymuno eu dilyn ar-lein:
DYDD MAWRTH 10 GORFFENNAF
Seremoni 1 am 11am (Celfyddydau)
Addysg; Saesneg; Hanes a Hanes Cymru
Seremoni 2 am 3pm (Celfyddydau)
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
DYDD MERCHER 11 GORFFENNAF
Seremoni 3 am 11am (Gwyddorau Cymdeithasol, Celfyddydau)
Gwleidyddiaeth Ryngwladol; yr Ysgol Gelf
Seremoni 4 am 3pm (Celfyddydau, Gwyddorau Cymdeithasol)
y Gyfraith; Ieithoedd Ewropeaidd; Cymraeg; y Radd Allanol
DYDD IAU 12 GORFFENNAF
Seremoni 5 am 11am (Gwyddorau Cymdeithasol)
Ysgol Rheolaeth a Busnes
Seremoni 6 am 3pm (Gwyddorau, Gwyddorau Cymdeithasol)
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol; Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff; AstudiaethauGwybodaeth
DYDD GWENER 13 GORFFENNAF
Seremoni 7 am 11am (Celfyddydau, Gwyddorau)
Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol
Seremoni 8 am 3pm (Gwyddorau)
Cyfrifiadureg; Sefydliad y Gwyddorau Gwledig