Microtransat 2008
Cwch hwylio robotaidd ym Mae Ceredigion
31 Awst 2007
Cystadleuwyr ar gyfer y ras gyntaf ar draws Môr yr Iwerydd i gychod hwylio robotaidd i gynnal profion yn Aberystwyth
Bydd timoedd sydd yn paratoi i gymryd rhan yn Microtransat 2008 (www.microtransat.org/), y ras gyntaf ar draws Môr yr Iwerydd i gychod hwylio robotaidd, yn cynnal pump diwrnod o brofion a rasio ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos nesaf ( 2-6 Medi 2007).
Mae disgwyl i gychod o'r Deyrnas Gyfunol, Ffrainc, Awstria, Canada, Portiwgal a'r Unol Daleithiau gymryd rhan yn Microtansat 2008, her gafodd ei chreu yn y lle cyntaf gan Dr Mark Neal o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth a Dr Yves Briere o Ecole Nationale Supérieure d'Ingénieurs de Constructions Aéronautiques (ENSICA) yn Toulouse, Ffrainc.
Bydd y timoedd yn hwylio o Lydaw yn Hydref 2008 a’r cyntaf i groesi’r llinell derfyn sydd rhwng gogledd ynys St Lucia a de Martinique ym Môr y Caribî, pellter o 4,000 o filltiroedd, fydd yn ennill.
Bydd pedwar tim sydd yn cynrychioli’r Ecole Nationale Supérieure d'Ingénieurs de Constructions Aéronautiques (ENSICA), Tolouse; Cymdeithas Cyfrifiadureg Arloesol Awstria (INNOC), Fiena; Queen’s University, Kingston, Ontario, Canada, a Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn Aberystwyth, fydd a’i bencadlys yn Harbwr Aberystwyth. Mae hwn yn un o gyfres o ddigwyddiadau sydd yn arwain at Microtransat 2008.
Dywedodd Dr Mark Neal:
“Nod y ras yw hybu datblygiad cychod hwylio ymreolus. Efallai fod hyn yn ymddangos yn esoterig ac yn ddibwys, ond mae nifer fawr o agweddau allai elwa’n sylweddol o ddefnyddio cychod hwylio ymreolus. Ar hyn o bryd defnyddir cyfuniad o fwiau wedi eu hangori, bwiau crwydrol a llongau ymchwil â chriw i edrych ar ardaloedd anghysbell o’r cefnfor. Mae hyn oll yn gymharol ddrud.”
“Gallai’r defnydd o robotiaid ymreolus sydd yn gallu cario offer gwyddonol i leoliadau penodol, casglu gwybodaeth heb ymyrraeth dyn ac yna dychwelyd i’r man cychwyn er mwyn gwaith cynnal a chadw, leihau’r costau yma yn sylweddol a chynnig mwy o ddewisiadau i wyddonwyr. Ar ben hyn, mae’r heriau o adeiladu robotiaid sydd yn medru gweithio yn annibynnol gan ddefnyddio ychydig o bŵer am fisoedd lawer yn debyg iawn i’r hyn mae ffonau symudol a llongau gofod yn wynebu.”
Mae rhaid i bob cystadleuydd gydymffurfio gyda nifer o reolau. Y gwynt yw’r unig yriant a ganiateir, rhaid iddynt fod yn llwyr ymreolus ac yn hunan gynhaliol o ran pŵer (paneli solar a batris), heb fod yn fwy na 4 metr o hyd ac yn pwyso hyd at 40 kilogram. Yn ogystal, uchafswm y gwariant a ganiateir ar ddefnyddiau a chyfarpar yw £40,000 / EUR 60,000.
Bydd y cystadleuwyr yn Aberystwyth yn cael eu barnu ar gywirdeb a chyflymdra’r mordwyo, maint, cost a phwysau y cychod, y gallu i aros yn eu hunfan ar y môr, agweddau diogelwch awtomatig, a’r gallu i dreulio cyfnodau maith ar y môr.
Microtransat 2007 – Aberystwyth
Bydd y cychod yn cael eu lansio yn harbwr Aberystwyth a bydd y rasio a’r profion yn cael eu cynnal allan yn y bae ac i’w gweld oddi ar Draeth y De a Thraeth y Gogledd.
Trefn digwyddiadau
Dydd Sul 2 Medi:
Prynhawn: Sesiwn anffurfiol i’r rhai sydd yn awyddus i brofi’u cychod cyn y ras.
Dydd Llun 3 Medi:
10:00-11:00 – Ras fer (tua 2km) yn agos at y lan.
13:30-18:30 – Ras hirach (tua 10km) ymhellach oddi wrth y lan.
Dydd Mawrth 4 Medi:
Timoedd yn mynychu cynhadledd TAROS (Towards Autonomous Robotic Systems) sydd yn cael ei chynnal gan Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol yn Aberystwyth.
Dydd Mercher 5 Medi:
10:00 – Dechrau ras 24 awr “creu argraff ar y beirniaid” lle y gall y cystadleuwyr arddangos galluoedd ei cwch.
Dydd Iau 6 Medi:
10:00 – Casglu’r cychod yn dilyn y ras 24 awr.
12:00 – Cyhoeddi dyfarniad y beirniaid.