'Plurinational Democracy: Europe and the Nationalities Question'
Hwn fydd y digwyddiad cyhoeddus pwysig cyntaf i'w gynnal yn adeilad newydd Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.
23 Hydref 2006
Darlith Gyhoeddus 2006 Jean Monnet/Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
‘Plurinational Democracy: Europe and the Nationalities Question'
Yr Athro Michael Keating o Sefydliad y Brifysgol Ewropeaidd yn Fflorens i ddarlithio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth
Mae dwy o ganolfannau ymchwil mwyaf bywiog Adran Gwleidyddiaeth Rhygnwladol fyd-enwog Aberystwyth yn ymuno â'u gilydd i ddod â ysgolhaig sydd yn flaengar yn rhyngwladol i Aberystwyth.
Yr hydref yma, bydd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Chanolfan Astudiaethau Ewropeaidd Jean Monnet yn cynnal darlith gyhoeddus fawr ar y cyd fydd yn cael ei thraddodi gan yr Athro Michael Keating, Pennaeth Adran Gwyddorau Gwleidyddol a Chymdeithasol yn Sefydliad y Brifysgol Ewropeaidd yn Fflorens.
Dywedodd Dr Roger Scully, Cyfarwyddwr Canolfan Jean Monnet; “Michael Keating yw’r ysgolhaig mwyaf blaenllaw yn ei faes. Ni all neb sy’n astudio na meddwl am natur a goblygiadau cenedlaetholdeb yn Ewrop heddiw fforddio bod yn anghyfarwydd gyda’i waith blaengar ef.”
Ychwanegodd Dr Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru; “Mae Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Cymru. Rydyn ni’n falch iawn eleni i drefnu’r ddarlith yma mewn cydweithrediad gyda Chanolfan Ragoriaeth Jean Monnet, ac i groesawi ysgolhaig blaenllaw yn Ewrop i siarad am genedlaetholdeb Cymraeg yng nghyd-destun cenhedloedd Ewrop.”
Teitl darlith yr Athro Keating yw ‘Plurinational Democracy: Europe and the Nationalities Question’. Cynhelir y ddarlith ddydd Llun 30 Hydref am 7 yr hwyr. Hwn fydd y digwyddiad mawr cyhoeddus cyntaf i gael ei gynnal yn adeilad urddasol newydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais. Croeso i bawb.
Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.aber.ac.uk/interpol.eust/.