Y Cenhedloedd Unedig yn troi at Brifysgolion Aberystwyth a Bangor
Yn eistedd (o'r chwith i'r dde): Yr Athro Noel Lloyd, Cyd-Gadeirydd Partneriaeth Ymchwil a Menter PCA a PCB; Dr Kandeh Yumkella, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Datblygu Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig. Yn sefyll (o'r chwith i'r dde): Dr Huw Aldridge a Dr Paul Brewer o Brifysgol Cymru Aberystwyth; Colin Iago ac Alan Davies o Brifysgol Cymru Bangor.
04 Hydref 2006
Y Cenhedloedd Unedig yn troi at Brifysgolion Aberystwyth a Bangor
Mae Sefydliad Datblygu Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig (SDDCU) wedi troi at Brifysgolion Cymru, Aberystwyth (PCA) a Bangor (PCB) am arbenigedd er mwyn datblygu mentrau ar y cyd mewn datblygiad economaidd cynaladwy a lleihau tlodi ar draws y byd.
Bydd Dr Kandeh Yumkella, Cyfarwyddwr Cyffredinol SDDCU a'r Athro Noel Lloyd, Cyd-Gadeirydd Partneriaeth Ymchwil a Menter PCA a PCB yn arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth ddydd Mercher 4ydd Hydref yn ystod lansiad Fframwaith Datblygiad Cynaladwy Rhyngwladol Cymru a gynhelir yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Bydd y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, Prifweinidog Cymru, a'r Gweinidog Gwladol ar gyfer Datblygiad Rhyngwladol, y Gwir Anrhydeddus Hilary Benn AS, yn annerch y digwyddiad.
Mae’r cytundeb, sydd am gyfnod o dair blynedd yn y lle cyntaf, yn canolbwyntio ar waith y Ganolfan Ymchwil Dalgylchoedd ac Arfordiroedd (CYDA).
Yn fwy penodol bydd prosiectau ar y cyd, rhaglenni ymchwil a chyfleoedd cyfnewid staff yn cael eu datblygu fydd yn edrych ar safon dŵr, diogelu cynefin a rheoli perygl mewn dalgylchoedd afonydd ac ardaloedd arfordirol.
Daw arwyddo’r cytundeb ddydd Mercher yn dilyn cyfres o ymweliadau gan ymchwilwyr o CYDA i swyddfeydd UNIDO yn Fienna ers dechrau 2005.
Menter gan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru ywPartneriaeth Ymchwil a Menter PCA/PCB a’i nôd yw hybu gweithgaredd ymchwil a menter ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Bangor.
Mae CYDA yn un o bedair canolfan ymchwil ar y cyd a sefydlwyd hyd yma. Y lleill yw’r 'Ganolfan Gymreig i Ymchwil Integredig yr Amgylchedd Wledig', y 'Ganolfan Ymchwil Uwch i Ddeunyddion a Dyfeisiadau Ymarferol', a’r 'Sefydliad Astudiaethau Canoloesoedd a Modern Cynnar'.