Sgiliau Myfyrwyr yn denu y noddwr mwyaf erioed
Tim buddugol llynedd o Adran y Gyfraith gyda Douglas Lamont o Grwp RPS
22 Tachwedd 2006
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2006
Sgiliau Myfyrwyr yn denu y noddwr mwyaf erioed
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr Prifysgol Cymru Aberystwyth, wedi sicrhau eu noddwr mwyaf erioed, gyda Grwp PRS yn cynnig £1,500 o wobr i'r tîm buddugol.
Cynhelir y rownd derfynol ar yr 21ain o Fawrth 2007, pan fydd grwpiau o nifer o adrannau y Brifysgol yn brwydro yn erbyn ei gilydd am y brif wobr. Dyma'r unig gystadleuaeth o’i math yn Mhrydain.
Bydd rhaid i bob tîm wneud cyflwyniad deg munud o hyd a chael stondin yn y Ffair Gyrfau. Thema y digwyddiad fydd sgiliau cyflogadwyedd, sef sgiliau mae’r myfyrwyr wedi eu ennill tra yn y Brifysgol byddai’n ddeiniadol i gyflogwyr. Y tîm buddugol llynedd oedd un Adran y Gyfraith, a thema eu stondin oedd ‘Y Gyfraith rwy’n dy garu di’.
Dywedodd Lynda Rollason, trefnydd y gystadleuaeth:
“Mae cael noddwyr bob blwyddyn ar gyfer y Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr yn sialens enfawr ac mae’n braf pan mae cwmni yn cynnig gwobr mor hael. Cyswllt cyntaf Grwp RPS gyda’r gystadleuaeth oedd fel gefaill gyda un o’r timau. Unwaith iddyn nhw ddod i weld y digwyddiad roedden nhw’n gaeth iddo fe, ac ers hynny mae nhw wedi noddi, gefeillio a gyda stondin yn y Ffair Gyrfau. Nid yn unig mae Grwp RPS wedi cefnogi’r digwyddiad yma ond mae nhw wedi mynd ymlaen i recriwtio nifer o raddedigion Aberystwyth.”
Mae’r timau yn cael eu gefeillio gyda chwmnïau sy’n rhoi cymorth iddyn nhw gyda’r printio, llungopïo ayyb. Y gobaith yw y bydd y cystadleuwyr yn medru mynd i weld y cwmni a chwrdd â uwchraddedigion sy’n gweithio yno i gael gweld pa sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw.
Yn ystod y rownd derfynol bydd beirniaid o ar draws y wlad yn dod i asesu’r timau ac i ddewis enillwyr. Yn ogystal â’r brif wobr, bydd gwobr am y Stondin Orau a’r Cyflwyniad Gorau. Noddir y Stondin Orau gan y Fyddin a’r Cyflwyniad Gorau gan BBC Cymru.