Rheithgor Dwyieithog?
Yn ei ddarlith, bydd Mr Ustus Roderick Evans yn trafod defnydd yr iaith Gymraeg mewn materion cyfreithiol yng Nghymru.
22 Tachwedd 2006
Rheithgor Dwyieithog?
Cynhelir Seithfed Ddarlith Flynyddol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig yn Siambr y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Dachwedd 25ain am 4.30y.h.
Traddodir y ddarlith gan Yr Anrhydeddus Mr Ustus Roderick Evans, Prif Farnwr, Cylchdaith Llysoedd Cymru. Testun y ddarlith fydd “Bilingual Juries?”.
Bydd Mr Ustus Roderick Evans yn trafod defnydd yr iaith Gymraeg mewn materion cyfreithiol yng Nghymru. Nid yw'n bosib ar hyn o bryd i ddewis aelodau rheithgor ar sail eu gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, er bod hawl gan ddiffynyddion a thystion mewn achos troseddol yr hawl i siarad Cymraeg gerbron y llys.
Gan hynny, amcan Mr Ustus Roderick Evans yn ei ddarlith yw cloriannu a yw'n ddymunol i ddewis rheithwyr ar sail eu gallu i ddeall y Gymraeg a’r Saesneg. Dilyna hyn bapur ymgynghori a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref, a’r argymhelliad yn Adroddiad yr Arglwydd Ustus Auld ar y Llysoedd Troseddol mai mater i Gymru oedd ystyried hyn. Y mae’r ddarlith yn ddarlith gyhoeddus, ac mae croeso i bawb ei mynychu yn rhad ac am ddim.