Penodi Cyfarwyddwr Newydd i'r Ganolfan Astudiaethau Addysg
Y Cyfarwyddwr newydd Lynwen Rees Jones (dde) yng nghwmni Alun Elidir yn lansio llyfr newydd yn ddiweddar
08 Tachwedd 2006
Cyfarwyddwr newydd i'r Ganolfan Astudiaethau Addysg
Penodwyd Lynwen Rees Jones yn gyfarwyddwr newydd ar y Ganolfan Astudiaethau Addysg (CAA) ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Mae Lynwen yn olynu Helen Emanuel Davies, a wnaeth waith rhagorol yn denu projectau i CAA gan sefydliadau megis Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC). Yn ystod y cyfnod o bedair mlynedd y bu Helen yn gyfarwyddwr, cyhoeddodd CAA dros 300 o deitlau Cymraeg a Saesneg.
Daw Lynwen yn wreiddiol o bentref Treboeth, Abertawe, a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn astudio Cemeg ac Astudiaethau Busnes yn y Brifysgol yma yn Aberystwyth. Bu’n athrawes yn Ysgol Uwchradd Caereinion o 1989 hyd 1994, yn dysgu Cemeg/Gwyddoniaeth a Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Yna, bu’n gyfieithydd llawrydd am sawl blwyddyn, tra’n magu teulu, cyn mynd yn olygydd/rheolwr projectau yn y Ganolfan Astudiaethau Addysg, ac yna’n gyfarwyddwr.
Yn ystod y flwyddyn diwethaf, enillodd CAA werth £500,000 o grantiau gan ACCAC, yn ogsytal â phroject sylweddol gan ELWA. Mae CAA yn awr yn edrych ymlaen am gyfnod llwyddiannus arall o dan arweinyddiaeth Lynwen.
Cynhaliwyd digwyddiad gan y Ganolfan Astudiaethau Addysg yn ystod mis Hydref hefyd i lansio’r llyfrau darllen hwyliog, Henri Helynt, a gyhoeddwyd ganddynt ddechrau’r mis hwn. Fe fu Alun Elidir (cyflwynydd ar S4C), yn darllen y llyfrau i ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4 Ysgol Gymunedol Tal-y-bont. Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn clywed am helyntion Henri, ac fe'u gwelir yn y llun yn mwynhau gydag Alun ac aelodau o staff CAA, gan gynnwys Lynwen, y cyfarwyddwr newydd.