Pwysigrwydd Gwyddoniaeth y Gofod ar gyfer byw heddiw
Bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi ddydd Mercher 8 Tachwedd
06 Tachwedd 2006
Pwysigrwydd Gwyddoniaeth y Gofod ar gyfer byw heddiw
Bydd Dr Jøran Moen o Adran Ffiseg Prifysgol Oslo yn Norwy yn dod i Brifysgol Cymru, Aberystwyth ddydd Mercher 8 Tachwedd i draddodi darlith gyhoeddus ar ‘Bwysigrwydd Gwyddoniaeth y Gofod ar gyfer byw heddiw' (‘The Importance of Space Science for Living Today').
Cyn ei ddarlith, dywedodd Dr Moen:
“Mae’r rhan fwyaf ohonom ni yn gwneud defnydd o gyfarpar Uwch-Dechnoleg sy’n ddibynol ar sustemau lloeren, er enghraifft mordwyaeth GPS, darlledu Teledu, telathrebiaeth byd-eang ayyb. Mae amgylchedd cras y lloerennau a’r peryglon sy’n bosib o ganlyniad i aflonyddu neu cholli cysylltiad y lloeren â’r ddaear yn gofyn am y gallu i ragweld tywydd y gofod yn fwy manwl. Bydd y ddarlith hon yn rhoi rhagarweiniad i ffiseg y gofod o safbwynt anghenion defnyddwyr masnachol.”
Cynhelir y ddarlith am 5.00 p.m. ym mhrif theatr ddarlithio yr adeilad Gwyddorau Ffisegol ac fe’i noddir gan Sefydliad Ffiseg Cymru.
Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth bydd Dr Moen hefyd yn cynnal sgwrs fwy arbenigol ar gyfer myfyrwyr am 12 p.m yn y Labordy Anrhydedd yn adeilad y Gwyddorau Ffisegol ar yr un diwrnod, am astudio yng Nghanolfan Prifysgol Svalbard (UNIS).
Cwmni cyfyngedig dan berchnogaeth y wladwriaeth yw Canolfan Prifysgol Svalbard (UNIS), sydd wedi ei leoli ar gasgliad o ynysoedd yn yr Arctic Uchel, gyda phrifysgolion Oslo, Bergen, Tromsø a NTNU yn Trondheim yn cael eu cynrychioli ar y bwrdd. Fe’i sefydlwyd yn 1993, a’i amcanion yw i ddarparu addysg Astudiaethau Arctic o safon prifysgol, i wneud ymchwil o safon uchel, ac i gyfrannu i ddatblygiad Svalbard ar y llwyfan ymchwil rhyngwladol. Mae ei leoliad yn ei gwneud yn fan perffaith ar gyfer gwaith labordy ac hefyd ar gyfer casglu a dadansoddi data arbenigol.
Prifysgol Cymru, Aberystwyth oedd un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i sefydlu cyswllt gyda UNIS. Mae myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig o’r Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol, ac o’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi bod yn astudio yn Svalbard ers bron i ddegawd.