Aber i gynnal 50fed cynhadledd y Grwp Geneteg Ecolegol
John Warren, trefnydd y gynhadledd eleni
31 Mawrth 2006
Grwp anffurfiol o wyddonwyr yw EGG; yn academyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr graddedig, sydd yn ymddiddori mewn geneteg ecolegol, geneteg poblogaeth, beioleg poblogaeth, biosystemateg, cadwraeth, ecoleg moleciwlau a phylogeograffeg. Mae croeso i gyflwyniadau, pynciau trafod a phosteri gan fyfyrwyr sydd yn cyflwyno am y tro cyntaf ac academyddion hyn sydd yn cyflwyno gwaith gorffenedig fel eu gilydd.
Dywedodd Dr John Warren, trefnydd y gynhadledd eleni:
“Mae’r Grwp Geneteg Ecolegol, neu EGG i’r aelodau, wedi sefydlu traddodiad o anffurfioldeb a chyfeillgarwch dros 50 mlynyedd. Fforwm ydyw lle mae ymchwilwyr yn mwynhau trafod eu gwaith. Mae hyn yn gynyddol anghyffredin yn y byd academaidd modern pwysau uchel sydd ohoni, ac mae’n rhwybeth mae EGG yn falch iawn ohono. Yr awyrgylch gyfeillgar sydd yn denu pobl yn ôl, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Lle i fyfyrwyr doethuriaeth ifanc gael cyflwyno eu papurau cyntaf yw EGG yn hytrach na hen wyddonwyr sydd wedi hen ennill eu lle. Mae canolbwyntio ar yr ifanc yn bwysig er mwyn hybu syniadau newydd a trafodaeth fywiog.”
“Rydw i wedi bod yn mynychu EGG ers mwy na 20 mlynedd, ac felly nid wyf yn wyddonydd ifanc bellach, ac eto rwy’n edrych ymlaen at gael dysgu am ddatblygiadau diweddar mewn Geneteg Ecolegol. Mae croesawu EGG adre i Aberystwyth ar gyfer ei hannercanfed cyfarfod yn debycach i drefnu parti teuluol na chynhadledd academaidd. Rydym yn edrych ymlaen at weld nifer o wynebau sydd wedi ymddeol ers sawl blwyddyn yn ogystal â chriw sydd yn mynychu am y tro cyntaf. Dylai’r gymysgedd o’r ifanc a’r hen sicrhau cyfarfod llwyddiannus arall wrth i EGG symud ymlaen i’w ail hanner canrif. Boed iddi barhau i gadw gwyddoniaeth yn hwyl, cyffrous a newydd”, ychwanegodd.
Sefydlwyd y Grwp Geneteg Ecolegol yn 1956, yn dilyn llythyrru rhwng J. W. Gregor, Cyfarwyddwr Bridfa Blanhigion yr Alban, Pentlandfield, a K. Jones, Pennaeth Cytoleg Bridfa Blanhigion Cymru, Aberystwyth, a adweinir bellach fel IGER.