PCA yn gweithio i leihau allyriadau carbon
Hysbyseb y cynllun yn y Guardian
28 Mawrth 2006
Aberystwyth yw’r unig brifysgol yng Nghymru i ymddangos ar yr hysbyseb sydd â’r pennawd ‘Cutting carbon emissions. There are those that can and those that do’. Mae’r hysbyseb yn mynd ymlaen i ddweud fod y prifysgolion a enwir ynddi yn arwain yn y maes hwn ac yn arbed arian wedi iddynt ymrwymo i’r rhaglen Rheoli Carbon.
Roedd PCA yn un o 20 prifysgol i ymuno â Chynllun Rheoli Carbon Addysg Uwch yr Ymddiriedolaeth Garbon pan gafodd ei lansio yn Ebrill 2005. Nod y cynllun oedd cynnig cymorth a chyngor i brifysgolion a cholegau addysg uwch er mwyn eu cynorthwyo i leihau allyriadau carbon. Bryd hynny amcangyfrifwyd bod yr 20 brifysgol yn gwario £70 miliwn ar ynni ac yn rhyddhau 555,000 tunnell o garbon i’r amgylchedd yn flynyddol.
Nigel Owen o Adran Ystadau’r Brifysgol sydd wedi bod yn cydlynu’r cynllun yn PCA. Dywedodd:
“Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf mae’r Brifysgol wedi bod yn edrych yn fanwl ar allyriadau carbon ac wedi bod yn cydweithio’n agos â’r Ymddiriedolaeth Carbon i chwilio am ffyrdd o wella’r sefyllfa. Er enghraifft, mae sefydlu’r cynllun teithio newydd – y cerdyn AHA - yn golygu arbed dros 12,000 litr o danwydd bob blwyddyn, sydd yn gyfystyr â 32 tunnell o garbon.”
“Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol yn cwblhau Cynllun Rheoli Carbon fydd yn gosod targedau ar gyfer lleihau allyriadau carbon dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd y cynllun yn galluogi’r Brifysgol i integreiddio materion sydd yn ymwneud â Rheolaeth Garbon gyfrifol i’w pholisïau craidd ac yn arwain at well ymwybyddiaeth o ynni a gwastraff ymysg y staff a’r myfyrwyr.”
“Sefydlwyd Grp Rheoli Ynni i oruchwilio’r modd ym mae’r cynllun yn cael ei weithredu a bydd gan y Brifysgol adnodd penodol fydd yn gyfrifol am leihau faint o nwy, trydan, olew a dŵr sydd yn cael ei ddefnyddio yn yr holl adeiladau academaidd a phreswyl. Eisoes nodwyd rhai cynlluniau penodol i arbed ynni, megis gwell rheolyddion tymheredd, insiwleiddio gwell a defnyddio goleuadau yn llai gwastraffus.”
Ym mis Chwefror cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Carbon adroddiad sydd yn dangos fod allyriadau carbon y pen yn Aberystwyth gyda’r isaf yn y Deyrnas Unedig, sef 0.47 tunnell o’i gymharu â 1.09 tunnell y pen gan drigolion Llundain. Dywedodd llefarydd yr Ymddiriedolaeth, Dr Garry Felgate, fod llawer o fyfyrwyr yn byw bywydau sydd yn rhyddhau ychydig o garbon. “Ar y cyfan nid yw myfyrwyr yn gyrru ceir – ychydig ohonynt sydd â cherbydau 4X4, ac maent yn llawer mwy tebygol o fyw mewn mannau cymunedol.
Ceir mwy o wybodaeth am waith yr Ymddiriedolaeth Carbon ar lein – gweler http://www.carbontrust.co.uk/campaign/