Darlith O'Donnell
Yr Hen Goleg, PCA
20 Mawrth 2006
Y Darlithydd
Ar hyn o bryd mae James Mitchell yn Athro Gwleidyddiaeth yn Adran Llywodraeth, Prifysgol Strathclyde. Mae ei gyhoeddiadau yn niferus ac yn cynnwys ‘Governing Scotland: The Invention of Administrative Devolution’ (2003) a ‘Strategies for Self-Government’ (1996). Ef hefyd oedd cyd-awdur ‘ScotlandDecides: The Devolution Issue and the 1997 Referendum’ (2000) ac mae cyfrol arall ‘Devolution in the United Kingdom’ ar y ffordd. Mae’r Athro Mitchell yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus Hŷn yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn aelod o Bwyllgor Llywio’r Alban o Gymdeithas Hansard (Yr Alban).
Y Ddarlith
Yn aml portreadwyd Mrs Thatcher fel bydwraig datganoli. Yn ogystal â darparu ffocws i’r gwrthbleidiau a’u galluogodd i ennyn cefnogaeth o blaid cynulliad cenedlaethol i Gymru a Senedd i’r Alban, heriodd Mrs Thatcher ein dealldwriaeth sylfaenol o ddinasyddiaeth, a’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r wladwriaeth. Canlyneb chwedl y wladwriaeth unedig o safbwynt dinasyddiaeth yw’r syniad o gydraddoldeb, neu i fod yn fwy cywir, unffurfioldeb hawliau a chyfrfoldebau’r dinasyddion ble bynnag maen’t yn byw.
Tanseiliodd Mrs Thatcher rhai o’r propiau allweddol a oedd yn cynorthwyo i gynnal chwedl y wladwriaeth unedig a’r syniadau o ddinasyddiaeth unegid a ddeuau yn ei sgil. Heddiw mae llywodraeth ddatganoledig yn bod ac eto rydym yn ei chael yn anodd dod o hyd i iaith dinasyddiaeth newydd i gymryd lle iaith y wladwriaeth unedig. Mae’r wladwriaeth ganolog ymyraethol Keynesiaidd wedi mynd, ond heb ddim yn ei lle hyd yma. Dyma un o brif heriau datganoli. Nawr mae angen dealldwriaeth newydd o ddinasyddiaeth yn ein ffurf o lywodraeth aml-lefelog.
Os am fwy o wybodaeth am y darlithydd ewch i http://www.strath.ac.uk/government/staff/mitchell.html.