Her iechyd yr Imagine Cup <br />
Lost Boy's: D i'r Ch Nathan Fisher, Chris Wilson a mentor Chris Loftus.
09 Mawrth 2006
Her iechyd yr Imagine Cup
Dydd Iau 9 Mawrth 2006
Fory, Dydd Gwener 10 Mawrth, bydd dau dîm o'r Adran Gyfrifiadureg yn cynrychioli PCA yn rownd derfynol Prydain o gystadleuaeth Microsoft, Imagine Cup UK 2006., sydd yn cael ei chynnal ym mhencadlys y cwmni yn Reading.
Bellach yn ei 4edd blwyddyn, mae'r Imagine Cup yn gyfle i dimoedd o fyfyrwyr gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn chwech category, Dylunio Meddalwedd, Algorithmau, Technoleg Gwybodaeth, Ffilm Fer, Dyluni Rhyngwyneb a Prosiect Hoshimi – Brwydr Raglenni. Yn ogystal â derbyn gwobrau electronaidd ac arian i’r adran, bydd y tîm buddugol yn mynd ymlaen i gynrychioli Prydain yn rownd derfynol y Byd sydd yn cael ei chynnal yn Delhi, India, yn ddiweddarach eleni.
Thema’r gystadleuaeth eleni yw “Dychmygwch fyd lle mae technoleg yn eich galluogi i fyw bywyd iachach.” Cynrychiolwyr PCA yw’r ‘Lost Boys’ a ‘Health Conscious’.
Mae’r Lost Boys, sef Ben Noble myfyriwr BEng, Matt Sharpe myfyriwr MEng a Stephen Pugh myfyriwr doethuriaeth a’u mentor Mark Neil, wedi dyfeisio sustem fonitro iechyd gyflawn o’r enw Salveo. Mae’n monitro symudiad person, curiad y galon, tymheredd y corff a llawer mwy, ac yn gweithio allan faint o egni mae person yn ei ddefnyddio mewn amser real.
Mae Health Conscious, sef Chris Wilson myfyriwr MEng a Nathan Fisher myfyriwr BSc a’u mentor Chris Loftus, wedi dyfeisio heaf, rhaglen sydd yn cynorthwyo person i integreiddio bwydlen gytbwys i fywyd prysur. Mae’r rhaglen yn cynnwys elfennau arloesol megis cynorthwydd coginio mewn amser real, cynllunydd bwydlen, gwybodaeth am ble i gael cynhwysion a cynghorydd ar werth bwyd.
Mae gwaith timoedd Aberystwyth wedi ei gydlynu gan Sandy Spence o’r Adran Gyfrifadureg ac aelod of Fwrdd Cynghori Academaidd Microsoft.
“Mae fformat y gystadleuaeth hon yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr werthu eu hunain, nid yn unig i Microsoft ond hefyd i gwmnioedd mawr eraill fydd yno’n beirniadu. Mae llwyddiant yr Adran yn adlewyrchiad o safon y gwaith sydd yn cael ei wneud yma – dyma’r ail flwyddyn i ni gael cynrhychiolydd yn y rownd derfynnol ac mae’r ffaith fod dau o’r deg tîm yn y rownd o Aberystwyth yn brawf o hyn.”
Yn y gystadleuaeth llynedd ymunodd myfyriwr of PCA, Joseph Wardell, gyda Adrian Collier o Brifysgol Bournemouth ac Andrew Webber o City University yn Llundain i ffurfio Team Bit Shifters. Yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn saith tim arall i ennill pencampwriaeth Prydain aethant ymlaen i gynrychioli Prydain yn y rownd derfynol yn Siapan.
Mae ei dyfais hwy, OneReach, yn galluogi myfyrwyr sydd ar flwyddyn gap i gadw blog o’i taith a’i profiadau o unrhyw rhan o’r byd drwy ei SmartPhone. Gall rhieni a ffrindiau adref ddilyn ei hynt, y blogiau, lluniau a ffilmiau fideo ar safle gwe a chadw mewn cysylltiad. Pwrpas OneReach yw ychwanegu at y profiad o flwyddyn deithio; ei rhannu gyda rhieni a ffrindiau a hwyluso cyfathrebu rhwng cyd-deithwyr.