Llwyddiant i'r Ysgol Gelf
Adeilad Edward Davies, cartref yr Ysgol Gelf
13 Mawrth 2006
Yn ddiweddar cafodd pump gwneuthurwr printiau o’r Ysgol Gelf eu cynnwys yn yr arddangosfa bywsig ‘ORIGINALS 06: The Contemporary Printmaking Show’, yn Orielau Mall, y Ffederasiwn Artistiaid Prydeinig yng nghanol Llundain.
Dewisiodd y beirniaid, a oedd yn cynnwys pobl nodedig megis Julius Bryant (V&A) Stephen Coppel (yr Amgueddfa Brydeinig), Richard Lloyd (Christie’s), William Packer (Beirniad) a Stuart Pearson Wright (Arlunydd), brintiau gan Aislinn Knight, Hannah Streat, Judy Macklin, Christopher Webster ac Andrew Baldwin. Mae 240 o brintiau gan 182 o arlunywr ar draws Prydain – arlunwyr ifanc a rhai sydd eisioes wedi sefydlu eu hunain – yn yr arddangosfa.
Dyfarnwyd gwobrau i dri o’r pump gwneuthurwr printiau o Aberystwyth yn y seremoni agoriadol ar nos Fawrth y 14eg o Chwefror: Hannah Streat (israddedig yn ei 3edd flwyddyn) a ennillodd wobr Joseph Webb, gwerth £250 ac yn roddedig gan Gymdeithas Frenhinol y Peintiwyr-Gwneuthurwyr Printiau; Aislinn Knight (cwrs Meistr olraddedig) a ennillodd wobr R K Burt & Co Ltd am arddangosfa unigol yn Llundain; ac Andrew Baldwin (Technegydd Hyn a myfyriwr israddedig yn ei 3edd flwyddyn, rhan amser) a ennillodd Gwobr yr Arts Club.
Yn agosaf i adref, dewisiwyd gwaith gan Emily Faludy (2ail flwyddyn, israddedig) a Barry Charlton (cwrs Meistri olraddedig) ar gyfer Gwobr Portread Cymru sydd yn cael ei chynnal bob dwy flynedd yng Nghastell Bodelwyddan, sefydliad partner yr Oriel Bortreadau Genedlaethol. Agorodd yr arddangosfa ar yr 2il o Fawrth a bydd yn teithio i Benbedw, Aberystwyth, Caerdydd, yr Wyddgrug a’r Rhyl. Dewisiwyd 55 o beintiadau gan y beirniaid o dan arweinyddiaeth Sandy Nairne, Cyfarwyddwr y Galeri Portreadau Genedlaethol, allan o 300 darn a gyflwynwyd o Brydain a thu hwnt.
Cafodd y myfyriwr Meistri ol-raddoedig Joe Sparow, a gwblhaodd ei gwrs ym mis Hydref, ei ddewis i gynrychioli PC Aberystwyth, yn yr ail Addrangosfa Gelf MA ac Olraddedig yng Ngaleri Atkinson, Millfield. Mae’r arddangosfa yn dangos amrywiaeth y gwaith olraddedig ar draws 18 sefydliad ac yn cynnwys gwaith myfyrwyr o Ysgolion Celf Camberwell a Central St Martins, y Slade, Ysgolion yr Academi Frenhinol, Caeredin, Newcastle, Winchester, Reading a’r Coleg Celf Brenhinol.
Yn Aberystwyth mae cyrsiau arbenigol ar gael mewn Paentio, Gwneud Printiadau, Ffotograffiaeth, Darlunio, Darlunio a Phaentio Byw, a’r cyfle i dderbyn addysg ac hyfforddiant sydd yn cyfuno yr astudiaeth o siliau a thechnegau traddodiadol gyda theori a arddulliau cyfoes. Yn 2007, bydd yr Ysgol Gelf yn dathlu 90eg mlwyddiant, ac yn ystod y cyfnod hwn mae darlunio wedi bod wrth galon profiad y myfyrwyr yma. Yng nghyd-destun yr adfywiad diweddar mewn sgiliau darlunio traddodiadol, mae’r Ysgol ar flaen y gad ym myd addysg celf.