£800,000 ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Campws Penglais
01 Mawrth 2006
Dydd Mercher 1 Mawrth, 2006
£800,000 ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Dyfarnwyd £800,225 i Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Cymru Aberystwyth (PCA) er mwyn ariannu deuddeg Cymrodoriaeth Hyfforddi Camau Cynnar Marie Curie o dan 6ed Rhaglen Fframwaith y Comisiwn Ewropeaidd ar Ymchwil, Datblygu Technolegol ac Arddangos.
Mae'r rhaglen, sydd yn darparu Cymrodoriaethau mewn Diogelwch a Dinasyddiaeth: Dimensiynau Ewropeaidd a Byd-eang, yn rhedeg am bedair blynedd ac yn cynnig pedair cymrodoriaeth i fyfyrwyr doethuriaeth ac wyth i fyfyriwr Meistr er mwyn astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, adran sydd ag enw da drwy'r byd.
Dyfernir Cymrodoriaethau Marie Curie i Adrannau sydd yn gwneud gwaith ymchwil neilltuol, ac mae’r rhaglenni hyfforddiant i Gymrodyr yn canolbwyntio ar dair thema gydberthnasol: damcaniaethau cyfoes o ddiogelwch a dinasyddiaeth; ymateb polisi yr Undeb Ewropeaidd i heriau diogelwch a dinasyddiaeth gyfoes; a phersbectif Dwyrain a Gorllewin Ewrop ar ddiogelwch, dinasyddiaeth ac ehangu yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y rhaglen newydd Diogelwch a Dinasyddiaeth yn ceisio sefydlu modd amlddisgyblaethol unigryw o astudio’r pynciau yma, drwy ddefnyddio profiadau amrywiol yr is-feysydd gwahanol o fewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a thrwy raglen o hyfforddiant ffurfiol wedi ei darparu gan ysgolheigion sydd yn ymweld o brifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill yn Nwyrain a Gorllewin Ewrop.
Un agwedd arloesol ar y cynllun yw y bydd y Cymrodyr yn treulio cyfnod preswyl er mwyn astudio meysydd Diogelwch Ewropeaidd, Ehangu’r Undeb Ewropeaidd a Dinasyddiaeth yr UE, mewn sefydliadau Ewropeaidd perthnasol, cyrff rhynglywodraethol, cymdeithasau grwpiau sifil, a chyrff diogelwch.
Bydd Cymrodoriaethau Hyfforddi Camau Cyntaf Marie Curie yn gwella’n sylweddol allu’r Adran i ddarparu hyfforddiant ymchwil o’r radd flaenaf mewn modd sydd i raddau helaeth yn unigryw a phellgyrhaeddol mewn diogelwch a dinasyddiaeth, rhywbeth sy’n cael ei ddatblygu yn Aberystwyth. Am fwy o wybodaeth cysyllter â’r Athro Nicholas J Wheeler in yr Adran.