Un o fawrion meddalwedd yn cefnogi gradd newydd
Dr Mark Neal (chwith) a Dr Andrew Sithers o Microsoft. Mae Microsoft wedi darparu ffonau call imate-SP5 (ffonau symudol â 'dant glas'), imate-kjam PDA/ffonau call (cyfuniad o ffôn a cynorthwyydd personol digidol gyda 'dant glas') a mio a701 (cyfuniad o ffôn a chynorthwyydd personol digidol, â dant glas a system lleoli byd-eang) ar gyfer myfyrwyr ar y cwrs Cyfrifiadureg Symudol a Gwisgadwy i weithio arnynt.
27 Mehefin 2006
Mae'r cwrs, fydd yn croesawu’r myfyrwyr cyntaf ddiwedd Medi, wedi derbyn cefnogaeth gan y cwmni meddalwedd anferth Microsoft sydd wedi darparu rhai o’r teclynnau llaw cyfrifiadurol diweddaraf sydd ar gael ar y farchnad er mwyn i’r myfyrwyr eu rhaglennu fel rhan o’r cwrs.
Dywedodd Dr Andrew Sithers o Microsoft:
“Mae technoleg symudol o ddiddordeb mawr i fyfyrwyr – nid yn unig eu bod yn hwyl i’w defnyddio, mae’r galw am y sgiliau yma oddi wrth y cyflogwyr yn uwch nag y bu erioed o’r blaen. O’i gyfuno â’r defnydd arloesol o dechnoleg yr ydym wedi ei weld yn Aberystwyth, rydym o’r farn fod gan yr Adran Gyfrifiadureg yno rywbeth gwych i’w gynnig i fyfyrwyr.”
Yn ôl Dr Mark Neal mae’r cwrs newydd hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio gydag ystod llawer ehangach o offer cyfrifiadurol nag a fu ar gael hyd yma.
“Datblygwyd y cwrs er mwyn rhoi llawer o brofiadau gwahanol o weithio gyda dyfeisiadau cyfrifiadurol bychain i’r myfyrwyr, unrhyw beth o ffonau symudol i systemau lleoli byd-eang, i declynnau monitro curiad calon a dyfeisiadau adnabod tonfedd radio, tagiau electroniadd bychain iawn a ddefnyddir gan siopau er mwyn cadw llygad ar nwyddau drudfawr,” dywedodd.
“Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut mae’r teclynnau yma yn gweithio mewn sefyllfaoedd bob dydd, faint o bŵer sydd ei angen arnynt a sut maent yn cyfathrebu â dyfeisiadau eraill a systemau cyfathrebu eraill megis rhwydweithiau ffôn symudol. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi hefyd i faterion technegol a moesol megis preifatrwydd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â dyfeisiadau bychain iawn fel rhai adnabod tonfedd radio sydd yn cychwyn chwildro mewn arwerthu.”
“Oherwydd sefyllfa flaengar Microsoft yn y farchnad fel darparwr systemau gweithredu a lleoliadau datblygu meddalwedd maent yn gallu cynnig offer arloesol iawn ar gyfer datblygu meddalwedd ar declynnau megis ffonau symudol a chynorthwywyr personol digidol. Mae’r cymorth y maent yn ei gynnig drwy’r cynllun trwyddedu meddalwedd MSDNAA a’r ffonau symudol a’r cynorthwywyr personol digidol sydd yn rhedeg Windows Mobile 5 yn rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr i fynd i’r afael â datblygu meddalwedd ar gyfer teclynnau fel hyn mewn amgylchedd realistig a gyda chymorth da,” ychwanegodd.