Aberystwyth yn y 10 uchaf o ran boddhad
Myfyrwraig ym MhCA
08 Mehefin 2006
Aberystwyth yn y 10 uchaf o ran boddhad
Datgelodd y Times Good University Guide a gyhoeddwyd yr wythnos hon (Dydd Llun 5 Mehefin) bod Aberystwyth ymysg y 10 uchaf o holl Brifysgolion Prydain o ran lefelau boddhad uchel ymysg myfyrwyr, a'r uchaf yng Nghmru. Tynnodd y cyfeirlyfr dylanwadol hwn ar ganlyniadau'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, a gasglodd farn am gyrsiau gan 170,00 o israddedigion blwyddyn olaf.
Mae canlyniadau’r arolwg, a gefnogwyd gan y llywodraeth, wedi eu gosod ar wefan Gwybodaeth Ansawdd Dysgu, www.tqi.ac.uk , er mwyn cynorthwyo darpar fyfyrwyr i weld beth yw barn myfyrwyr presennol am eu darlithwyr. Gofynwyd i israddedigion roi barn ar safon y dysgu a dderbyniwyd, lefel yr adborth a’r cymorth sydd ar gael, cyflwr yr adnoddau dysgu a’u teimlad cyffredinol o foddhad gyda’u cyrsiau gradd.
Croesawodd Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth sydd â chyfrifoldeb dros gymorth myfyrwyr, yr adroddiad gan ddweud – “mae hyn yn cadarnhau’r ansawdd arbennig o adnoddau academaidd a llety, ac adnoddau cymdeithasol a chwaraeon sydd ar gael yn Aberystwyth. Mewn oes lle mae myfyrwyr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’u dewis hwy fel cwsmeriaid, mae’n hanfodol fod prifysgolion yn gallu cynnig gwasanaethau ac adnoddau o’r lefel uchaf. Yn Aberystwyth rydym wedi cychwyn ar raglen gwerth £15miliwn i ehangu’n adnoddau gwych. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi’n helaeth yn ein gwasanaethau cymorth myfyrwyr, er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr sy’n rhoi eu dyfodol yn ein gofal ni yn cwblhau eu cyrsiau’n llwyddiannus”.