Yr Heli-kite yn hedfan yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth
Dr Dave Barnes a'r 'helikite'
30 Mehefin 2006
Trefnwyd Roborama er mwyn herio ac ysbarduno’r ffordd y mae’r cyhoedd yn meddwl am y datblygiadau diweddaraf ym maes roboteg. Mae ymchwilwyr roboteg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth wedi ymuno â’r Amgueddfa Wyddoniaeth er mwyn cynhyrchu sioe llawn hwyl ar gyfer teuluoedd sydd yn gofyn gymaint o gwestiynau ac y mae’n ei hateb. Bydd cynulleidfaoedd yn dysgu llawer am robotiaid, trafod beth yn union yw robot a beth mae pobl am iddynt ei wneud, o’r ymarferol – glanhau a gwneud gwaith cartref fel arfer – i’r ysbrydoledig – teithio yn y gofod.
Bydd Roborama yn cael ei berfformio ddwy waith bod dydd yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn ystod wythnos hanner tymor (Mai 27 – Mehefin 4) am 10.30 ac am 11.30 yn y brif theatr. Mae’n sioe hanner awr ac yn addas ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 5 oed neu’n hŷn.
Ddydd Mercher 31ain o Fai a dydd Iau 1 Mehefin bydd y sioe yn cael ei hymestyn i gynnwys ymweliad gan Dr Dave Barnes, Darllennydd mewn Roboteg y Gofod a’r Planedau ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Bydd Dave yn arddangos yr helikite – robot sydd yn edrych fel croesad rhwng balwn awyr poeth a barcud. Datblygwyd y robot ar gyfer gweithio mewn amgylchedd eithafol fel yr hyn a geir ar y blaned Mawrth: bydd yn codi setiau bychain o gyfarpar gwyddonol, yn mesur amgylchiadau atmosfferig a defnyddio camera ar-fwrdd ar gyfer cyfeirio crwydrwr ar wyneb y blaned.
Dyma’r rhan gyntaf o raglen genedlaethol o’r enw ‘Robot Thought’, sydd yn cael ei chydlynu gan Dr Karen Bultitude o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Mae ‘Robot Thought’ yn golygu sefydlu partneriaethau rhwng ymchwilwyr roboteg a chanolfannau gwyddoniaeth, a chynhyrchu arddangosfeydd gwyddonol addysgiadol diddorol a difyr sydd yn adlewyrchu yr ymchwil diweddaraf mewn roboteg ar gyfer teuluoedd. Cynhelir y sioeau yma ar draws y DU yn ystod 2006/7. Ceir mwy o wybodaeth am ‘Robot Thought’ ar y wefan http://www.uwe.ac.uk/fas/graphicscience/projects/events/robot_thoughtII.htm .
Mae’r partneriaid eraill yn cynnwys: Prifysgol Gorllewin Lloegr (Bryste); Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Prifysgol Caeredin; Y Brifysgol Agored; At-Bristol (Bryste); Canolfan Gwyddor Bywyd (Newcastle); Techniquest (Cardiff); Techniquest@NEWI (Wrecsam); Amgueddfa Wyddoniaeth Thinktank (Birmingham); Amgueddfa Wyddoniaeth, Llundain; W5 (Belffast); a Gwyl Wyddoniaeth Caeredin.