Y Radd Allanol yn dathlu ugain mlynedd o raddedigion
Yr Athro Peter Neal (chwith) a Ursula Byrne (dde) yn llongyfarch Jenny Day (canol), Olwen Alexander a Ian Davies ar eu llwyddiant.
11 Gorffennaf 2006
Y Radd Allanol yn dathlu ugain mlynedd o raddedigion
Roedd y gyntaf o'r seremoniau graddio eleni yn garreg filltir bwysig i'r Radd Allanol trwy gyfrwng y Gymraeg eleni wrth iddi ddathlu ugain mlynedd o raddedigion.
Sefydlwyd y cwrs yn 1980 a graddiodd y myfyrwyr cyntaf yn 1986. Ers hynny, mae 88 o raddedigion wedi cwblhau’r Radd Allanol. Mae’r cwrs rhan amser, sy’n arwain at radd BA yn y Gymraeg neu Cymraeg a Hanes Cymru, yn denu myfyrwyr, rhai hŷn ar y cyfan, o bob rhan o Gymru a thu hwnt ac o bob cefndir. Ceir hyd at ddeng mlynedd i orffen y cwrs, sy’n cael ei ddysgu ar ddyddiau Sadwrn, ar hyn sy’n unigryw yw mai trwy gyfrwng y Gymraeg y dysgir yr holl gyrsiau.
‘Dyfalbarhad, ymroddiad a brwdfrydedd am y pwnc yw’r cymwysterau pwysicaf sydd eu hangen i lwyddo’, meddai Ursula Byrne, Cydgysylltydd y Radd Allanol, ‘ac mae’r myfyrwyr sy’n graddio eleni yn profi hynny, unwaith eto’.
Eleni, yn ogystal â dathlu ugain mlynedd ers y graddio cyntaf, dathlwn ganlyniadau arbennig. O’r pum myfyriwr a raddiodd eleni, cafodd tri ohonynt Radd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg.
Jenny Day, gwyddonydd sy’n gweithio’n rhan amser yng Nghanolfan Edward Llwyd, PCA. Mae Jenny ar fin dechrau ei hastudiaethau doethuraidd yn y Gyrmaeg ar ôl derbyn ysgoloriaeth.
Elizabeth Evans o’r Borth ger Aberystwyth. Mae ennill y radd hon yn gamp arbennig i Elizabeth gan iddi ddigwydd hanner canrif yn union ar ôl iddi raddio am y tro cyntaf, gyda BA Dosbarth Cyntaf yn Saesneg o Brifysgol Caerdydd.
Robin Spey, Americanes sydd yn byw ym Mlaenau Ffestiniog ers peth amser, sydd yn cwblhau’r drindod o raddedigion dosbarth cyntaf eleni.
Y graddedigion eraill eleni yw Olwen Allender, pennaeth yr Adran y Gymraeg yn ysgol uwchradd St Joseph’s yng Nghasnewydd, ac Ian Davies o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n gweithio’n rhan amser yn Amgueddfa Bywyd Cymru, Sain Ffagan ger Caerdydd.
Dywedodd Yr Athro Peter Neil, Cyfarwyddwr yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes: ‘Mae’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn falch iawn o’r pum myfyriwr hwn a hoffwn longyfarch pob un ohonynt ar eu llwyddiant arbennig’.