Cyfrifeg Aberystwyth yn 20 uchaf Ewrop

Yr Artho Kevin Holland
10 Gorffennaf 2006
Cyfrifeg Aberystwyth yn 20 uchaf Ewrop
Mae'r gyfrol ddiweddaraf o'r cyfnodolyn Accounting and Business Research wedi cyhoeddi canlyniadau dadansoddiad o gynnwys pedwar ar bymtheg o’r cynodolion cyfrifeg mwyaf blaengar sy’n cael eu cydnabod yn ryngwladol.
Rhestrwyd ymchwilwyr Cyfrifeg yr ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 16eg yn Ewrop yn ystod y cyfnod 1991 – 2002, ac yn 17eg am y cyfnod mwy diweddar 1997 – 2002.
Mewn ymateb i’r newyddion dywedodd yr Artho Cyfrifeg a Chyllid, Kevin Holland, bod “ y canlyniadau yma yn dystiolaeth o’r traddodiad hir o ymchwil cyfrifeg yma yn Aberystwyth sydd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, a’i barhad hyd at y dydd heddiw”.
Chan, K. C, Chen, C. R. and L. T. W. Cheng (2006), "A ranking of accounting research output in the European Region", Accounting and Business Research . 36. Cyf. 1. pp. 3 – 17.