Dau enwebiad ar gyfer myfyriwr Erasmus
Christopher Lee gyda campws y Brifysgol UNIS yn y cefndir
04 Rhagfyr 2006
Dwy enwebiad ar gyfer myfyriwr Erasmus
Mae Christopher Lee, a raddiodd o Aberystwyth gyda Mphys mewn Ffiseg a Ffiseg Atmosfferic yng Nghorffennaf eleni, wedi cael ei enwebu ar gyfer dwy wobr yng ngwobrwyau Myfyrwyr Erasmus y DU eleni. Bydd y gwobrau yn cael eu cyflwyno mewn seremoni yn Llundain ddydd Mercher 6 Rhagfyr.
Cymrodd Chris, sydd o'r Amwythig, ran yng nghynllun Erasmus yr Undeb Ewropeaidd, a treuliodd ei amser astudio dramor yn Nghanolfan Prifysgol Svalbard (UNIS) yn yr Uwch-Arctig, sefydliad addysg uwch mwyaf gogleddol y byd.
Y thema ar gyfer gwobrau 2006 yw “Erasmus wrth edrych yn ôl – Profiad Academaidd a Diwylliannol”. Bob blwyddyn, gwahoddir myfyrwyr i lunio traethawd neu gynnig cyfres o luniau ar eu profiadau ar y rhaglen gyfnewid. Chris yw'r unig fyfyriwr i ymddangos ar restr fer y ddau gategori ers cynnal y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn 2002.
Mae Chris yn un o 6 yn y rownd derfynol allan o 80 o ymgeiswyr am y wobr ffotograffiaeth ac yn un o 10 ar y rhestr fer ar gyfer y wobr traethawd allan o 120 o ymgeiswyr. Yn y seremoni bydd disgwyl iddo wneud cyflwyniad am ei brofiadau i banel o feirniaid sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r CBI, ‘Times On-Line’ a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd (CILT). Bydd Bill Rammell, Gwenidog Gwladol Addysg Gydol Oes yn rhoi sgwrs rhagarweiniol.
Carol Smart yw cyd-lynydd cyfnewid yn Aberystwyth:
“Mae llwyddiant Chris yn newyddion gwych. Pan mae myfyrwyr yn dychwelyd i Aberystwyth o’u hamser mewn prifysgol dramor mae’n nhw’n frwdfrydig iawn dros y rhaglen. Mae Erasmus yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr barhau gyda’u hastudiaethau tra’n dysgu am ddiwylliant a iaith arall.”
Mae Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd cyfnewid gyda 50 o sefydliadau ym mhob gwlad Ewropeaidd heblaw Hwngari a Gweriniaeth Slofacia. Ar hyn o bryd mae dros 50 o fyfyrwyr Aberystwyth mewn sefydliadau cymar fel rhan o’r rhaglen Erasmus a dros 100 o fyfyrwyr o sefydliadau Ewropeaidd eraill yn Aberystwyth. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd cyfnewid myfyrwyr gyda cymar brifysgolion yn yr UDA.
Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf cymrodd 7,131 o fyfyrwyr ran yn y rhaglen Erasmus a cynrychiolwyd dros 60 o sefydliadau yn gystadleuaeth eleni.