Robot taflu welingtons cyntaf y byd
Y robot hyrddio welingtons
21 Awst 2006
Yr her a osodwyd oedd adeiladu taflwr welingtons mecanyddol drwy ddefnyddio darnau metal sgrap a hen rhannau mecanyddol. Ymateb y tîm o Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol, sydd newydd lansio cynllun gradd mewn Cyfrifadureg Symudol a Gwisgadwy ac sydd ar fin chwarae rhan flaenllaw yn nhaith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i'r blaned Mawrth, yw robot sydd yn medru taflu welingtons dros bellter o hyd at 80 metr.
Daw’r pwer o beiriant disel hen gymysgwr concrit a blwch geriau o hen gar Citroen 2CV, y ddau wedi eu gosod ar siasi wedi ei gwneud o hen ddarnau dur. Gan mae cywirdeb yn hytrach na phellter yw’r brif ffon fesur, penderfynodd aelodau’r tîm, Richard Shipman sydd yn dysgu deallusrwydd artifisial, Dr Andy Shaw ymchwilydd mewn roboteg y gofod ac Ian Izett, technegydd cyfrifiadurol, ddefnyddio eu profiad yn y meysydd yma er mwyn adeiladu peiriant sydd yn gallu anelu’n gywir.
Mae gan y peiriant ddisgen sydd yn mesur 2 fetr ar draws ac sydd yn cael ei rheoli gan gyfrifiadur. Gall daflu hyd at 6 welingtonsen ar y tro a throi ar gyflymdra o hyd at 250 gwaith y funud. Mae cyfrifiadur arall yn mesur cyflymdra a chyfeiriad y gwynt ac yn anfon y wybodaeth drwy drydydd cyfrifiadur a chysylltiad radio i gluniadur lle gall aelodau o’r tîm gadw llygad ar sut mae’r peiriant yn gweithio.
Wrth baratoi ar gyfer y profion maes terfynol dywedodd Richard Shipman:
“Arwahan i adeiladu’r peiriant ei hun, yr her fwyaf i ni oedd sicrhau fod y cyfrifiaduron yn siarad gyda’u gilydd ac yn medru cyfathrebu gyda’r caledwedd. Mae wedi bod yn ymarfer defnyddiol iawn o safbwynt ein ymchwil gan mae dyma’r math o beth yr ydym yn ei wneud gyda robotiaid a cherbydau annibynnol. Robot taflu welingtons yw hwn a dweud y gwir, a’r cyntaf o’i fath yn y byd mwy na thebyg!”
“Y cyfan sydd ar ôl i’w wneud nawr yw dangos i’r robot ei hun beth mae e’n medru ei wneud. Mae ganddo rhywfaint o ddeallusrwydd artifisial ac yn ystod yr wythnos ola o brofion maes bydd yn dysgu yn yr un ffordd ac y mae plentyn bach yn dysgu wrth dyfu”, ychwanegodd.
Bydd y tîm, sydd yn arddel yr enw ‘The Re-booters’, yn wynebu 15 taflwr welingtons mecanyddol arall, gan gynnwys tîm o sêr y rhaglen Scrapheap Challenge, yn Ffair Stêm Fawr Dorset ar y 30ain o Awst. Caiff y gystadleuaeth ei darlledu ar Channel 4 yn ystod gwanwyn 2007.