Penodi cyfarwyddwr i Ganolfan Iaith Ranbarthol Canolbarth Cymru
Siôn Meredith
31 Awst 2006
Dyfarnwyd y cytundeb i redeg y Ganolfan i Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol gan Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2006 a bydd Siôn yn dechrau ar ei waith ar y 30ain o Hydref.
Bydd y Ganolfan yn gweithio gyda darparwyr eraill yn y canolbarth, yn eu mysg Cyngorau Sir Ceredigion a Phowys, a Cholegau Addysg Bellach Powys, Ceredigion a Meirion Dwyfor er mwyn datblygu ac ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr a busnesau.
Yn dilyn ei benodiad dywedodd Siôn:
‘Mae hwn yn gyfle gwych i weddnewid y defnydd o’r Gymraeg yng nghanolbarth Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at arwain tim o bobl a fydd yn marchnata cyrsiau Cymraeg i Oedolion i gynulleidfa newydd, ac yn darparu cyrsiau o’r radd flaenaf a fydd yn sicrhau fod mwy o ddysgwyr yn llwyddo i siarad Cymraeg yn rhugl ac yn hyderus.’
Croesawyd y penodiad gan yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-ganghellor sydd â chyfrifoldeb penodol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
“Mae’r penodiad hwn yn un rhagorol a bydd profiad eang Siôn o weithio ar draws Cymru ac ar brosiectau rhyngwladol o fudd mawr i’r Ganolfan Iaith Ranbarthol newydd. Mae sefydlu’r Ganolfan yn gam pwysig ymlaen o safbwynt hyrwyddo Cymraeg i Oedolion ac mae’n gyfle i adeiladu ar flynyddoedd o wasanaeth ymroddedig gan y Brifysgol yn y maes hwn.”
“Mae’r ffaith i’r cytundeb hwn gael ei ddyfarnu i’r Brifysgol a’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn arwydd o hyder Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ein hymroddiad i ddysgu’r Gymraeg ar bob safon. Mae gan y Brifysgol darged uchelgeisiol er mwyn cynyddu nifer y myfyrwyr sydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hwn yn gam pwysig tuag at y nod hwnnw,” ychwanegodd.
Yn ystod ei amser gyda Tearfund bu Siôn yn arwain tîm o wirfoddolwyr ledled Cymru i gynyddu’r gefnogaeth gan eglwysi ac unigolion tuag at brosiectau dyngarol yn rhai o wledydd tlotaf y byd. Arweiniodd dîm o wirfoddolwyr o Gymru a Lloegr i Rwanda ac Uganda yn Ebrill 2005, a thros y blynyddoedd cafodd gyfle i ymweld â phrosiectau partneriaid Tearfund yn rhai o wledydd eraill deheudir a gorllewin Affrica. Yn ystod cyfnod sabothol ym mis Mehefin 2005 aeth ar ymweliad i India i gwblhau prosiect ymchwil ar raglen HIV ac AIDS yn y gweithle ar gyfer Banc Standard Chartered.
Cyn gweithio i Tearfund, Siôn oedd Cyfarwyddwr y mudiad CYD o dan adain Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Drwy’r gwaith hwnnw cafodd brofiad o arwain rhaglen o weithgareddau i ddod â Chymry Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd, a chynorthwyo dysgwyr i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
Mae Siôn yn byw ger Aberystwyth ac yn briod â Janet. Mae ganddynt ddau o blant – Hanna (10) a Huw (4). Mae’n aelod o Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth, ac hefyd yn aelod o Gorff Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Penrhyn-coch.