Syr Jeremy Greenstock i ddarlithio yn PCA
Syr Jeremy Greenstock
13 Ebrill 2006
Bydd Syr Jeremy yn dadnsoddi tueddiadau cyfredol mewn geowleidyddiaeth, gan gynnwys digwyddiadau yn y Dwyrain Canol (Irac, Iran a Phalesteina) a’r rhagolygon am reoli terfysgaeth ryngwladol, ac yn dadansoddi beth mae Prydain yn debygol o’i wynebu o safbwynt polisi tramor yn y blynyddoedd a ddaw. Bydd y ddarlith ar gael ar ffurf ‘podcast’ ar wefan Sefydliad Coffa David Davies (DDMI) a caiff ei chyhoedd yng nghyfnodolyn chwarterol y Sefydliad, ‘International Relations’.
Mae’r darlithydd yn unigryw o safbwynt ei gymwysterau i gynnig y fath ‘tour de horizon’. Cafodd ei eni yn 1943, a’i addysgu yn Ysgol Harrow a Choleg Caerwrangon, Rhydychen. Y Gwasanaeth Diplomyddol Prydeinig oedd ei brif yrfa, a’i swydd olaf oedd Cynrychiolydd Parhaol Prydain i’r Deurnas Unedig (DU) yn Efrog Newydd (1998-2003), ac yna, wedi iddo ddychwelid o’i ymddeoliad, Cennad Arbennig y DU dros Irac (Medi 2003 – Mawrth 2004).
Dwy thema ei yrfa oedd y Dwyrain Canol a’r Berthynas rhwng yr Unol Daleithiau a Gorllewin Ewrop. Bu’n astudio Arabeg yng Nghanolfan Astudiaethau Arabeg y Dwyrain Canol yn Libanus (1970-72), ac aeth i wasanaethu i Dubai a Saudi Arabia ar dechrau’r 1970au ac yna ganol y 1980au. O 1974-1978 ef oedd Ysgrifennydd Personol y Llysgenhadon Peter Ramsbotham a Peter Jay yn Llysgenhadaeth Prydain yn Washington, dechrau cyfnod o ddeng mlynedd iddo yn Washington a Efrog Newydd.
Wedi cyfnod fel Cynghorydd Gwleidyddol ym Mharis (1987-90), dychwelodd Syr Jeremy i Lundain i fod yn Gyfarwyddwr Gorllewin a De Ewrop, lle bu’n ymwneud â materion perthnasol i Bolisi Tramor Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd, y Balcaniaid, Cyprus a Gibraltar. Dychwelodd i Washington fel Gweinidog (Dirprwy-Lysgennad) yn 1994-95 cyn cael ei alw nôl i Lundain i fod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gorllewin Ewrop a’r Dwyrain Canol (1995) ac yna Cyfarwyddwr Gwleidyddol (1996-98). Ar ôl cadeirio Pwyllgor Gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd yn ystod Llywyddiaeth y DU yn ystod hanner cyntaf 1998, symudodd i Efrog Newydd i fod yn Lysgennad y DU i’r Cenhedloedd Unedig yng Ngorffennaf 1998.
Cymrodd Syr Jeremy swydd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Ditchley yn Awst 2004. Mae’r Ganolfan Gynadledda hon, sydd yn fawr ei bri, yn dod ag academyddion ac ymarferwyr at eu gilydd i archwilio materion polisi rhyngwladol o ddiddordeb arbenning i’r Deurnas Unedig, yr Unol Daleithiau a Canada.
Sefydliad Coffa David Davies
Mae adeiladu pontydd rhwng y byd academaidd a’r byd llunio polisi wedi bod yn un o brif amcanion Sefydliad Coffa David Davies ers ei sefydlu yn 1951. Cafodd ei sefydlu i gofio am waith yr Arglwydd David Davies a fu’n hyrwyddo byd mwyn cyfiawn drwy gydweithio rhyngwladol, y gyfraith a threfniadaeth. Symudodd y Sefydliad o Lundain i Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 2002, ynghyd â’r cyfnodolyn ‘International Relations’, sydd yn cael ei olygu gan Athro E H Carr yr Adran, Ken Booth.
Mae gweithgareddau ymchwil y Sefydliad wedi eu lleoli ar y groesfan rhwng gwleidyddiaeth, y gyfraith, ac etheg materion bydol cyfredol. O dan y cyfarwyddwr presenol, Yr Athro Nicholas J Wheeler, mae’r Sefydliad yn ymwneud â phrosiectau ar y ‘cyfrifoldeb i ddiogeli’, hyfywedd hir-dymor y drefn i rwystro lluosogiad niwclear, ac adeiladu ymddiriedaeth yng ngwleidyddiaeth y byd.
Mae’r Sefydliad wedi ymrwymo i genhadaeth o addysgu’r cyhoedd er mwyn hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth o faterion global, ac i’r perwyl hynny, mae wedi ffurfio perthynas agos gyda Chymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru sydd a’i chartref yn y Deml Heddwch a Iechyd yng Nghaerdydd, a sefydlwyd gan yr Arglwydd Davies yn 1938 ar gyfer pobl Cymru.
Ceir mwy o fanylion am ymchwil a gweithgareddau Sefydliad Coffa David Davies gan Swyddog y Rhaglen Natalia Szablewska (+44 (0)1970 621 768) neu e-bost ddmstaff@aber.ac.uk.
Diwedd.