Ymchwilwyr yn troi eu golygon at Gwener
Venus Express. Llun diolch i ESA
11 Ebrill 2006
Ers dros hanner canrif mae gwyddonwyr o Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r astudiaeth o'r Haul ac effeithiau tywydd y gofod ar y Ddaear.
Bydd taith Venus Express, gafodd ei lansio ym mis Tachwedd 2005, yn ymestyn maes ymchwil y grwp i gynnwys astudiaeth o’r berthynnas rhwng yr Haul a Mawrth, Gwener a Mercher yn ogystal â’r Ddaear.
Dr Andy Breen yw Isgyfarwyddwr Tîm Ymchwil y System Solar.
“Gall tywydd y gofod gael effaith ddramatig ar y Ddaear. Gall gwynt solar sydd yn cael ei ryddhau o ganlyniad i ffrwydriad mawr ar wyneb yr Haul ddifrodi systemau cyfathrebu lloeren, ac o dan amgylchiadau eithafol, achosi i linellau trydan fethu. Mae gwynt solar hefyd yn gyfrifol am un o ryfeddodau byd natur, Goleuni’r Gogledd, a achosir pan fo’r gwynt yn adweithio gyda maes magnetig amddiffynnol y Ddaear,” dywedodd.
Yr offeryn Aspera 4 (Analyser of Space Plasmas and Energetic Atoms) yw’r darn allweddol o safbwynt gwaith y grwp ymchwil ar Venus Express. Bydd yr offeryn hwn yn galluogi’r tîm i astudio’r atmosffer ar Gwener, sut y datblygodd yn y gorffennol a sut mae’n debygol o ddatblygu yn y dyfodol.
Yn aml cyfeirir at Gwener fel chwaer blaned y ddaear oherwydd y tebygrwydd mewn maint, màs, dwysedd a chyfaint. Ar gyfartaledd mae hi 108 miliwn o gilmoetrau o’r haul, tua 30% yn agosach na’r Ddaear. Ond, does dim dŵr ar Gwener, ac mae iddi atmosffer wenwynig a thrwm, o garbon deiocsid yn bennaf, ac mae’n bwrw glaw asid sylffwrig. Wyneb y blaned yw’r boethaf yn y system solar, mae’n eiriasboeth a’r tymheredd yn 750k (477°C). Y gred yw i hyn gael ei achosi gan effaith ty gwydr trychinebus o ganlyniad i lefelau uchel o garbon diocsid yn yr atmosffer.
“Does gan Gwener ddim maes magnetig i’w hamddiffyn oddi wrth effeithiau’r gwynt solar. Wrth i’r gwynt daro atmosffer y blaned mae’n cael ei herydu yn raddol. Y cwestiwn mawr yw sut, heb amddiffyniad, mae wedi datblygu atmosffer mor ddwys ac yn ei chynnal. Bydd ffenomena fel hon yn dweud llawer wrthom am sut mae’r Ddaear yn ymddwyn gan fod yr egwyddorion ffisegol sylfaenol yr un peth,’ ychwanegodd Dr Breen.
“Un agwedd hynod gyffrous o’r gwaith yma yw’r cyfle mae’n gynnig i fyfyrwyr israddedig gael dysgu o daith ofod weithredol. Rydym yn cynnig dwy raglen gradd, Gwyddoniaeth y Gofod a Roboteg, a’r cwrs Ffiseg gyda Ffiseg y Gofod a’r Planedau a bydd myfyrwyr yn elwa yn uniongyrchol o’r wybodaeth a ddaw o Venus Express ac yn cael cyfle i weithio ar ychydig o’r data a geir ganddi. Mae’r cysylltiad rhwng ymchwil a dysgu yma yn PCA yn allweddol.”
Mae gwaith yr offeryn Aspera 4 yn cael ei arwain gan yr Athro Manuel Grande sydd newydd ymuno â Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol fel Cyfarwyddwr y Tîm Ymchwil System Solar. Mae’r Athro Grande yn ymuno â’r sefydliad o Labordy Rutherford Appleton lle’r oedd yn Arweinydd Grwp Ymchwil Plasma’r Gofod a’r Planedau. Mae e hefyd yn Athro Ymchwil Ymweld yn Sefydliad Ymchwil Gwyddorau’r Gofod yn y Brifysgol Agored ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Warwick.