Hyrwyddo Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel
Stephen Lawrence ( de)
06 Ebrill 2006
Nod Addysg Uwch Cymru Brwsel (AUCB) yw galluogi'r sector Addysg Uwch i gysylltu'n fwy cyflawn gyda blaenoriaethau Ewropeaidd megis Strategaeth Lisbon a Proses Bologna ac i gymell a chefnogi rhyngweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch, sefydliadau Ewropeaidd a phartneriaid rhanbarthol ar draws Ewrop.
Mae’r corf newydd yn fenter ar y cyd rhwng yr holl Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru ac mae’n cael ei gefnogi gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac Addysg Uwch Cymru (AUC).
Lansiwyd AUCB ar yr 28ain o Fawrth gan y Comisiynydd Ewropeaidd i Wyddoniaeth ac Ymchwil, Janez Potocnik. Cafwyd cyfraniadau hefyd gan Eluned Morgan MEP a’r Athro James Lusty, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Casnewydd, a Chadeirydd presennol AUC.
Dywedodd yr Athro Lusty: "Bydd y swyddfa ym Mrwsel yn rhoi proffil uwch i Addysg Uwch Cymru ac yn rhoi iddynt lefel llawer uwch o gysylltiad a gwybodaeth am gyfleoedd sydd yn bod eisioes ac yn y dyfodol mewn ymchwil ac addysg. Bydd hefyd yn cynnig ffynhonnell wybodaeth i wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd am y gwahanol briodoleaddau a chryfderau sydd gan brifysgolion Cymreig.
"Mae prifysgolion wrth galon y weledigaeth i greu Ewrop o wybodaeth ac mae Addysg Uwch Cymru yn awyddus i chwarae ei rhan."
Cafodd y corff newydd groeso gan Eluned Morgan ASE a phwyslieisiodd bwysigrwydd gweithio gyda’r Undeb Ewropeaidd er mwyn datblygu economi Cymru: "Rydym yn gwybod mae’r unig ffordd o gystadlu yn yr economi fydol sydd ohoni yw drwy ganolbwyntio ar ymchwil a thechnoleg. Yng Nghymru mae ganddom enw da iawn am ddefnyddio arian Ewropeaidd i’r diben hwn – drwy adeiladu adeiladwaith Ymchwil a Thechnoleg drwy’n techniumau.”
"Nawr mae rhaid i ni ddatblygu perthynas fwy gweithgar gyda’r Undeb Ewropeaidd a defnyddio’r cyfleoedd cyllido er mwyn gwneud y mwyaf o’n economi wybodaeth. Mae AUCB yn allweddol i’r ymdrechion yma. Rwy’n gobeithio y bydd o wasanaeth i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac yn eu galluogi i weithio gyda’u gilydd er lles y wlad i gyd.”
Dywedodd y Comisiynydd Ewropeaidd i Wyddoniaeth ac Ymchwil, Janez Potocnik: "Drwy agor swyddfa ym Mrwsel mae prifysgolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar lefel Ewropeaidd mewn ymchwil a datblygu fel modd o wynebu heriau dyfodol Ewrop.”
Cyfeiriad AUCB yw Ty Cymru / Wales House, 11 Rond Point Schuman, Brussels, B1040.