Gwsberins Gogledd America- newyddion drwg i fio-amrywiaeth?
Gwsberins
03 Ebrill 2006
Mae gwaith ymchwil gan Dr John Warren a Mr Penri James o Sefydliad Gwyddorau Gwledig Prifysgol Cymru, Aberystwyth, sydd wedi ei gyhoeddi yn y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn ecolegol rhyngwladol ‘Oecologia’, yn dangos fod yna oblygiadau ecolegol tebygol pan fydd genynnau estron yn dianc i’r gwyllt, ond eu bod yn anodd i’w rhagweld.
Yr wsberen frodorol Brydeinig gafodd ei defnyddio fel model. Ers 1905 bu dyfodol yr wsberen hon o dan fygythiad o ganlyniad i ddyfodiad y llwydni gwsberins Americanaidd, sydd yn heintus iawn. I bob pwrpas rhoddodd yr haint ddiwedd ar dyfu gwsberins yn fasnachol yng ngwledydd Prydain ac aeth y ffrwyth o fod yn un poblogaidd i fod yn un weddol anghyfarwydd.
Ers y cyfnod hwn mae llawer o’r gwsberins sydd wedi eu tyfu yma yn y DU wedi bod yn groesiad rhwng rhai brodorol a mathau Americanaidd sydd yn medru gwrthsefyll yr haint. Yr hyn a ddarganfuwyd gan y gwyddonwyr yn Aberystwyth yw fod y genynnau sydd yn eu galluogi i wrthsefyll yr haint wedi arwain at newidiadau bach iawn yn ecoleg y pryfed sydd yn bwydo arnynt yn y gwyllt.
Gwelwyd fod gan blanhigion oedd yn cynnwys genynnau wedi eu cyflwyno o’r gwsberins Americanaidd fwy o lindys yn bwydo arnynt, ond fod y pryfed dipyn yn llai o faint na’r rhai oedd yn bwydo ar y gwsberins genetaidd-bur Prydeinig. Mae’n aneglur sut mae hyn yn digwydd. Mae Dr John Warren yn dyfalu “y gall fod yna berthynas rhwng hyn a’r ffaith fod arferion bwydo’r pryfed yn rhai penodol iawn a’u bod yn llai abl i ffynnu ar blanhigion sydd yn cynnwys genynnau anghyfarwydd”.
Yn ogystal â hyn, mae’r ymchwilwyr wedi darganfod fod y tebygolrwydd y bydd planhigion yn ymsefydlu yn y gwyllt yn cynyddu yn unol â’r nifer o weithiau y maent yn cael eu croesi nôl. Cafwyd fod planhigion hybrid yn llai tebyg o oroesi yn y gwyllt nag oedd planhigion wedi eu croesi nôl, a oedd yn cynnwys llai o enynnau wedi eu cyflwyno. Ychydig iawn o ddeunydd genetaidd sydd yn cael ei drosglwyddo yn y broses o gynhyrchu cnwd wedi ei addasu’n enetaidd o’i gymharu â chnwd wedi ei gynhyrchu drwy fridio confensiynol. Felly mae’n bosibl fod planhigion GM yn cynnwys llai o elfennau cyflwynedig eraill na chnydau confensiynol.
Dywedodd Dr Warren “Os yw’r un peth yn wir mewn cnydau eraill, mae’n golygu bod genynnau o gnydau sydd wedi eu haddasu’n enetaidd yn fwy tebygol o ledaenu na rhai o gnydau sydd wedi eu bridio mewn modd confensiynol”.
Bydd Dr Warren yn cyflwyno ei ddarganfyddiad i gynhadledd flynyddol y Grp Geneteg Ecolegol sydd yn cael ei chynnal rhwng y 4ydd a’r 7ed o Ebrill ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Dyma hanner can-mlwyddiant y grp ac maent yn dychwelyd i Aberystwyth, sef lleoliad y gynhadledd gyntaf yn 1956.
Ceir manylion llawn am y gynhadledd ar y wefan http://users.aber.ac.uk/jhw/egg50th.html.