Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FG26020
Teitl y Modiwl
Ffiseg Mathemategol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Ysgrifenedig  100%
Arholiad Semester 3 Awr   Ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Asesiad: 2 BRAWF  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Mynegi systemau a pherthnasoedd ffisegol gan ddefnyddio iaith fathemategol fectorau, hafaliadau differol a theori Fourier.

Defnyddio fectorau, meysydd fector, algebra fector a systemau cyfesurynnau gwahanol i ddadansoddi problemau ffisegol mewn gofod 3-dimensiwn.

Enrhifo integrynnau llinell, arwyneb a gofod. Galw i gof a defnyddio theoremau Stokes, Green a dargyfeiriad yn cynnwys ffactorau graddfa.

Galw i gof a chymhwyso gwahanol ddulliau i ddatrys amrywiol fathau o hafaliadau differol.

Dosbarthu, dadansoddi a datrys hafaliadau differol trefn-dau mewn amryw o gyd-destunau ffisegol.

Disgrifio ac egluro cysyniadau dadansoddiad Fourier, ffaltwng a chydberthyniad a chymhwyso technegau dadansoddiad Fourier i broblemau mewn systemau ffisegol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn datblygu amrywiaeth o theoriau mathemategol: ddadansoddiad fector, hafaliadau differol a dadansoddiad Fourier. Cymhwysir y rhain i fodelu a datrys problemau mewn nifer eang o sefyllfaoedd ffisegol; electrostateg, magneteg, disgyrchedd, mecaneg, thermodynameg, ffiseg plasma, ffiseg atmosffer a mecaneg hylif.

Nod

Mae'r modiwl yn datblygu dulliau mathemategol i fodelu systemau ffisegol. Mae o bwysigrwydd sylfaenol i holl gynlluniau gradd anrhydedd Ffiseg ac yn addas ar gyfer nifer o gynlluniau gradd anrhydedd mewn Mathemateg.

Cynnwys

Dadansoddiad fector: lluoswm triphlyg sgalar a fector, gwerthoedd eigen a fectorau eigen, cyfesurynnau polar, meysydd sgalar a fector 3-D, graddiant, dargyfeiriad a chwrl meysydd 3-D, gweithredydd fector, integrynnau llinell, integrynnau arwyneb. Hafaliadau differol: hafaliadau differol cyffredin o unrhyw drefn, hafaliadau differol cydamserol, hafaliadau differol rhannol, problemau gwerth eigen. Dadansoddiad Fourier o signalau, paramedrau cyflenwol (e.e. amledd ac amser), trawsffurfiadau Fourier.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd myfyrwyr angen rheoli eu amser yn ystod y gweithdai wythnosol.
Cydlynu ag erail Mae myfyrwyr yn cal eu hannog i weithio gyda’i gilydd mewn gweithdai.
Cyfathrebu proffesiynol Mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog i gyfathrebu a’u gilydd mewn ffordd broffesiynol yn y gweithdai.
Datrys Problemau Creadigol Mae’r modiwl yma ymwneud a datrys problemau mathemategol. Mae’r taflenni gwaith yn cynnwys problemau mathemategol.
Gallu digidol Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ddarllen am y pynciau ar-lein.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Mae’r myfyrwyr yn cael eu hyfforddi i ddadansoddi problemau mewn mathemateg a ffiseg.
Sgiliau Pwnc-benodol Sgiliau ymchwilio: mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog i ymchwilio o gwmpas y pwnc. Mae’r technegau mathemategol sydd yn cael eu dysgu yn dechnegau craidd i fathemateg a ffiseg.
Synnwyr byd go iawn Mae’r problemau yn y gweithdai wedi cael eu ysbrydoli gan enghreifftiau byd go iawn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5