Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY31120
Teitl y Modiwl
Gloywi Iaith yr Ail Iaith
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   35%
Arholiad Semester 2 Awr   35%
Asesiad Ailsefyll Prawf Llafar (15 munud)  Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt.  30%
Asesiad Ailsefyll Tasgau  35%
Asesiad Semester Prawf lafar (15 munud)  Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt.  30%
Asesiad Semester Tasgau ysgrifenedig wythnosol  20 tasg ysgrifenedig  35%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

ysgrifennu Cymraeg safonol a chywir.

ymgydnabod â rheolau gramadeg y Gymraeg.

allu esbonio gwallau iaith yn hyderus.

allu treiglo’n gywir.

allu defnyddio patrymau cystrawennol amrywiol.

adnabod mathau gwahanol o gymalau a’u defnyddio’n gywir mewn brawddegau.

defnyddio priod-ddulliau Cymraeg yn eu gwaith ysgrifenedig eu hunain.

wybod ystyr nifer o ddiarhebion Cymraeg a’u defnyddio’n naturiol mewn sgwrs ac ar bapur.

ymgydnabod â chywirdeb Cymraeg llafar a ffurfiol.

wybod sut i ddefnyddio cyweiriau’r iaith yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal â thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.

Nod

Darpara’r modiwl hwn sylfaen gref ar gyfer defnyddio’r iaith ysgrifenedig yn gywir i fyfyrwyr y mae’r Gymraeg yn ail iaith iddynt. Gan eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd a pheth hyfforddiant gramadegol ar Lefel 1 a 2, bydd y modiwl hwn yn fwy ymestynnol am ei fod yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer y rhuglder a gafodd ei feithrin hyd at y flwyddyn olaf. Bydd modd iddynt ymarfer yr hyn a ddysgwyd o’r blaen drwy lunio darnau mewn Cymraeg llenyddol a ffurfiol.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar ffurf grŵp neu weithdy iaith wythnosol o dan ofal tiwtor. Trafodir y gwallau cyffredin sy’n ymddangos yng ngwaith y myfyrwyr o wythnos i wythnos, a chyfeirir y myfyrwyr at yr adran berthnasol yn y Gramadeg. Gosodir ymarferion iaith yn y dosbarth o bryd i’w gilydd er mwyn hyfforddi dan gyfarwyddyd.
Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:
1. Orgraff
2. Cenedl Enwau
3. Treigladau
4. Cyweiriau’r iaith
5. Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o’r iaith
6. Cystrawennau
7. Cymalau
8. Priod-ddulliau
9. Diarhebion Cymraeg
10. Cyfieithu
Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i’r gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a’u hesbonio.
Gwaith Tim Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i’w cywiro.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trin y Gymraeg yn unol â rheolau gramadegol.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i’r myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein.
Technoleg Gwybodaeth Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6