Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Atodol | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Prawf Llafar | 15% |
Asesiad Ailsefyll | Tasg Ysgrifenedig Estynedig | 45% |
Asesiad Semester | Ymarferion Wythnosol - cyfanswm o 20 | 45% |
Asesiad Semester | Prawf llafar | 15% |
Canlyniadau Dysgu
O fanteisio i'r eithaf ar y modiwl hwn byddwch yn meddu ar ymwybyddiaeth o deithi'r Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n raenus ac yn gywir yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd myfyrwyr a fydd yn rhagori yn medru arddangos meistrolaeth o nodweddion megis orgraff yr iaith, ffurfiau ac amserau berfau, cenedl enwau, y treigladau, llunio cymalau ac adnabod gwahanol fathau o frawddegau.
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal â thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.
Cynnwys
Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:
Orgraff
Cenedl Enwau
Treigladau
Cyweiriau’r iaith
Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o’r iaith
Cystrawennau
Cymalau
Priod-ddulliau
Diarhebion Cymraeg
Cyfieithu
Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i’r gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith. |
Cydlynu ag erail | Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth. |
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a’u hesbonio. |
Gallu digidol | Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd gofyn i’r myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein |
Myfyrdod | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i’w cywiro |
Sgiliau Pwnc-benodol | Trin y Gymraeg yn unol â rheolau gramadegol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5