Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Cynllun busnes (2,000 gair) | 35% |
Semester Assessment | Aseiniad ysgrifenedig Cynnig ysgrifenedig ar gyfer menter busnes newydd (500 gair) | 5% |
Semester Exam | 2 Hours Arholiad | 60% |
Supplementary Assessment | Cynllun busnes (2,000 gair) | 35% |
Supplementary Assessment | Aseiniad ysgrifenedig Cynnig ysgrifenedig ar gyfer menter busnes newydd (500 gair) | 5% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Asesu pwysigrwydd mentergarwch a chreu mentrau newydd yn yr economi ehangach, yn enwedig eu rôl wrth greu swyddi ac arloesedd.
2. Trafod y prif broblemau sy’n gysylltiedig â sefydlu a rhedeg menter newydd o ran cysylltiadau rhwng y cyflogwr a’r gweithwyr, marchnata a rheolaeth ariannol.
3. Nodi’r ffactorau sy’n achosi i fusnesau bach fethu, a maint y broblem.
4. Cynllunio ar gyfer cychwyn busnes newydd a bod yn ymwybodol o gymhellion y llywodraeth ac eraill i gynorthwyo mentrau o’r fath.
5. Datblygu sgiliau personol gan gynnwys sgiliau adeiladu tîm a chyflwyno.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn ystyried elfennau damcaniaethol ac ymarferol mentergarwch, a sefydlu a rhedeg menter newydd. Rhoddir sylw i’r ymagweddau economaidd, cymdeithasol a seicolegol tuag at theori mentergarwch, a rôl y mentergarwr wrth ddatblygu arloesedd. Mae’r modiwl yn edrych ar sut i ddod o hyd i gyfleoedd busnes newydd, cychwyn, rheoli a marchnata menter newydd, llunio cynllun busnes, a chodi cyllid.
Content
unigryw a ffactorau gwahaniaethu
Theorïau mentergarwch, cymhellion tuag at greu busnes bach, ymchwilio i’w goblygiadau ymarferol, mentergarwch ymhlith menywod a lleiafrifoedd ethnig
Cyd-destun economaidd busnesau bach, y cwmni bach yn yr economi, polisi’r llywodraeth tuag at fusnesau bach, creu diwylliant menter, polisïau
presennol
Gwahanol fathau o fusnesau, masnachfraint, y berthynas rhwng y sawl sy’n rhoi a dal y masnachfraint, systemau darparu gwasanaeth,
cloriannu cyfle i sefydlu masnachfraint, ehangu trwy gyfrwng masnachfraint
Ariannu’r fenter newydd. Ffynonellau cyllid ar gyfer cwmnïau bach, cychwyn busnes heb gyllid allanol, benthyciadau banc a gorddrafftiau, prydlesu a
hurbwrcasu, cyfalaf menter ac angylion busnes
Tyfu cwmni bach. Camau twf, rheoli twf, rheoli pobl, y mentergarwr ar wahanol gyfnodau, hyfforddiant rheoli, adeiladu tîm rheoli
Marchnata yn y fenter newydd, mentergarwch wrth ymdrin â marchnata, problemau marchnata mewn cwmnïau bach, e-fusnes, gwerthu cynnyrch a
gwasanaethau ar-lein
Heriau a materion sy'n wynebu mentrau newydd. Y rhesymau pam mae cwmnïau bach yn methu gan gynnwys gwerthiannau annigonol a rheolaeth
ariannol wael, diffyg cynllunio, strategaethau adfer, rheoli ariannol.
Cwmnïau teuluol. Pwysigrwydd cwmnïau teuluol, materion rheoli, perchnogaeth a materion cyfreithiol, olyniaeth, gwerthu’r busnes teuluol, menter
gymdeithasol
Cynllunio ar gyfer y dyfodol, strategaethau cynaeafu, rhyddhau i’r farchnad, gwerthu, olyniaeth reoli, mentergarwyr rheolaidd a phortffolio, arweinyddiaeth a moeseg.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Paratoi rhagamcaniadau ariannol ar gyfer y cynllun busnes gan gynnwys cymarebau ac adennill costau ac ati. |
Communication | Meithrin hyder ac eglurder wrth gyfathrebu ar lafar trwy gymryd rhan mewn sesiynau tiwtorial a thrafodaethau grŵp y tîm prosiect, datblygu eglurder a ffocws wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig trwy gynhyrchu a chyflwyno prosiectau grŵp, datblygu a defnyddio geirfa briodol sy’n benodol i’r pwnc wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
Improving own Learning and Performance | Llunio a chymhwyso strategaethau hunan-ddysgu, adolygu a monitro eu perfformiad cyffredinol, a bod yn ymwybodol o reoli amser. |
Information Technology | Defnyddio amrywiaeth o adnoddau electronig ar y we ac yn y llyfrgell i adolygu'r wybodaeth sydd ar gael ac i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol; defnyddio pecynnau meddalwedd amrywiol i gynhyrchu adroddiad y prosiect grŵp (excel, testun, tablau a dadansoddi rhifyddol, graffeg). |
Personal Development and Career planning | Meithrin sgiliau dadansoddi ariannol a gwneud penderfyniadau, nodi cyfleoedd posibl ar gyfer mentergarwch, gan ganolbwyntio ar y gallu i feddwl yn greadigol ac yn arloesol. |
Problem solving | Nodi’r union broblem i’w datrys, asesu pa ddata sy’n berthnasol i’r broblem, cydnabod y gallai fod dulliau eraill o ddatrys y broblem, dewis a chymhwyso dulliau priodol i ddatrys y broblem, asesu pa mor rhesymol yw’r atebion i’r problemau a dehongli’r atebion hynny. |
Research skills | Nodi pa ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i hwyluso astudio ar y modiwl (deall, darllen ehangach), i ddarparu gwybodaeth er mwyn dadansoddi perfformiad a rhagolygon busnes, i ddarparu deunydd crai i gynhyrchu'r prosiect grŵp, dewis y wybodaeth fwyaf perthnasol i'w hadfer, adfer gwybodaeth, ailasesu perthnasedd ac asesu hygrededd gwybodaeth a adferwyd, cyfeirnodi / priodoli ffynonellau gwybodaeth yn gywir. |
Subject Specific Skills | Paratoi cynllun busnes gan gynnwys ymchwil i’r farchnad a rhagolygon ariannol, deall y cysyniad o fentergarwch a phynciau cysylltiedig, gan gynnwys y sector busnesau bach a chymorth y llywodraeth, cymhwyso sgiliau dadansoddi ariannol a gwneud penderfyniadau i ddatblygu menter newydd – wrth gynllunio, marchnata, gweithredu, ac ati. |
Team work | Magu profiad o waith tîm a datblygu sgiliau gweithio mewn tîm trwy’r prosiect grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 5