Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad 2 awr. (Rhaid i fyfyrwyr ail-wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl) | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig 2,000 gair. (Rhaid i fyfyrwyr ail-wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig 2,000 gair. (Rhaid i fyfyrwyr ail-wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl) | 20% |
Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig 1 (2000 gair) | 20% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig 2 (2000 gair) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dadansoddi cymwyseddau craidd sydd eu hangen ar gyfer rheolaeth effeithiol ac yn deall cyfraniad meddylwyr rheoli allweddol
2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r berthynas rhwng rheolwyr a sefydliad
3. Nodi a thrafod dadleuon cyfoes mewn theori rheoli, megis prosesau cyfathrebu, a mathau o reolaeth
4. Egluro a gwerthuso rhyngweithio amgylcheddau mewnol ac allanol
5. Nodi a thrafod polisïau priodol i lunio'r amgylchedd mewnol o sefydliad busnes yn unol â'r elfennau alldarddol o'r amgylchedd busnes
6. Dadansoddi a gwerthuso amgylchedd busnes gan ddefnyddio technegau megis PESTEL
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau damcaniaethol a goblygiadau ymarferol sy'n ymwneud â phobl mewn sefydliadau a'r berthynas rhwng rheolwyr a threfniadaeth. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar y grymoedd mewnol ac allanol a all effeithio ar y ddeinameg gweithredu mewn amgylchedd busnes cyfoes. Bydd archwiliad o ddatblygiad hanesyddol y cysyniad ac arfer rheoli yn cyflwyno'r cysyniadau o rym, rheolaeth, atebolrwydd a chymhelliant a'u goblygiadau ymarferol. Trwy gydol y modiwl, bydd cysyniadau damcaniaethol yn cael eu cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn gyda phwyslais arbennig ar rôl a gweithredoedd rheolwyr cyfoes. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys darlithoedd ar feddylwyr rheoli allweddol a modelau rheoli.
Cynnwys
• Yr Amgylchedd Economaidd: Globaleiddio a Rhyngwladoli
• Yr Amgylchedd Economaidd: Yr Economi, rhanbartholi, amlochroldeb a Masnach Rhyngwladol
• Yr Amgylchedd Technolegol: Arloesi, IPR a Throsglwyddo Gwybodaeth
• Yr Amgylchedd gwleidyddol: cenedlaethol a chyd-destun byd-eang
• Yr Amgylchedd cymdeithasol-ddiwylliannol: diwylliant a newid
• Busnes Moesegol: Yr Amgylchedd, Moeseg Busnes a CSR
• Dynameg byd-eang o’r amgylchedd busnes: materion cyfredol o globaleiddio
• Rôl y Rheolwr
• Theori Rheoli a Rheolaeth / arweinyddiaeth
• Damcaniaethau cymhelliant a gwneud penderfyniadau
• Cyfathrebu, gwrthdaro a thrafod
• Rheolaeth: rhyngwladol yn erbyn entreprenwriaeth
• Newid, strategaeth a chynllunio
• Greddf, arloesedd a chreadigrwydd
• Rheolaeth gweithrediadau a rheoli
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygu sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys sgiliau trafod a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd drwy ddarllen ac ysgrifennu am reolaeth a busnes. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gall myfyrwyr ddefnyddio'r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl yma i wella eu cyfleoedd o ran gyrfa. Byddant hefyd yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o drefnu a rheoli ffynonellau gwybodaeth. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau. Nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posib. Datblygu dulliau meddwl yn greadigol i ddatrys problemau. Gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau posib. Llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp, yn cyfrannu'n effeithiol ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a chyflwyniad grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dyfeisio a chymhwyso strategaethau hunan-ddysgu, adolygu realistig ac yn monitro perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser. |
Rhifedd | Dadansoddi adroddiadau cwmnïau a data rhifiadol arall. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o drefnu a rheoli ffynonellau o wybodaeth a chadw i fyny gyda'r datblygiadau diweddaraf mewn rheolaeth a busnes. |
Sgiliau ymchwil | Cynnal ymchwil i syniadau cyfredol o fewn y meysydd rheolaeth a busnes. Adnabod deunyddiau o ffynonellau perthnasol ac o erthyglau o gyfnodolion ar gyfer aseiniadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin. Cyflwyno gwybodaeth a chyflwyno data. Defnyddio e-bost / y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4