Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 22 x Darlithoedd 1 Awr |
Tiwtorial | 4 x Tiwtorial 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% |
Arholiad Semester | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Datrys hafaliadau differol rhannol llinol syml;
egluro a dangos enghreifftiau addas lle mae hafaliadau o'r fath yn ymddangos mewn ffiseg a diwydiant;
dehongli ystyr y datrysiadau mathemategol i'r hafaliadau differol rhannol o fewn y cyd-destun priodol.
Disgrifiad cryno
Mae'n bosib gosod llawer o broblemau sy'n codi ym meysydd y gwyddorau ffisegol, peirianneg a thechnoleg, ar ffurf hafaliadau differol rhannol. Er mwyn datrys problemau o'r fath, mae'n rhaid i rywun fod yn ymwybodol o'r mathau gwahanol o hafaliadau differol rhannol sy'n bodoli, ac o'r gwahanol amodau ffin sy'n gysylltiedig a phob math. Mae'r ffactorau yma'n penderfynu pa ddull datrys ddylai gael ei ddefnyddio.
Cynnwys
2. Hafaliadau trefn un: y dull nodweddion.
3. Amodau ffin: Dirichlet, Neumann, Robin, amodau ystum da ac amodau ystum gwael.
4. Hafaliadau trefn dau: dosbarthiad, lleihad i ffurfiau canonaidd.
5. Yr hafaliad ton: datrysiad cyffredin, problem Cauchy, egwyddor adlewyrchiad, egwyddor Duhamel, llinyn ffinedig, egni ac unigrywiaeth.
6. Yr hafaliad gwres: egwyddor uchafswm, unigrywiaeth, gwahanu newidynnau, priodweddau datrysiadau, y datrysiad sylfaenol.
7. Ffrwythiannau Green.
Nod
Dysgu'r myfyriwr i adnabod math hafaliad differol rhannol, a sut i ddewis a gweithredu dull ar gyfer ei datrys.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6