Ar gyfer y Flwyddyn Dramor, gallwch ddewis o blith y canlynol (ceir rhai cyfyngiadau):
- lleoliad astudio gyda phrifysgol partner
- lleoliad gyda'r Cyngor Prydeinig
- lleoliad gwaith neu waith gwirfoddol
- lleoliad astudio mewn Ysgol Ieithoedd.
Gall myfyrwr sy'n astudio un iaith ddewis cyfuniad o'r rhain.
Lleoliad astudio gyda phrifysgol partner
Gyda'r dewis hwn, cewch astudio am un neu ddau semester yn un o'n prifysgolion partner ledled Ewrop neu ymhellach i ffwrdd. Byddwch yn astudio'ch pynciau gradd drwy'r iaith tra'n gweithio ac yn cymdeithasu gyda siaradwyr brodorol. Fe gewch y cyfle hefyd i gwrdd â myfyrwyr cyfnewid eraill, ac mae hyn yn arwain at greu ffrinidau am oes yn aml.
Ar leoliad astudio, byddwch yn gallu astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n berthnasol i'ch cynllun gradd, ac fe gewch fanteisio ar y cyfle i drio rhywbeth newydd yn ogystal. Mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis mynd ar drywydd iaith ranbarthol neu frodorol, er enghraifft, megis Quechua, Asturiana neu iaith y Basg, neu iaith fyd-eang arall megis Tsieineeg, Arabeg, iaith Holand neu Rwsieg.
Canfod ble allwch chi astudio gyda'n prifysgolion partner.
Lleoliad gyda'r Cyngor Prydeinig
Mae'r Cyngor Prydeinig yn rhedeg rhaglenni sy'n cynnig nifer o gyfleoedd i astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor. Rhaglen sy'n boblogaidd gyda'n myfyrwyr ni yw'r rhaglen Cynorthwyydd Iaith, sef cyfle i ddysgu Saesneg dramor ar leoliad gyda chyflog. Mae lleoliadau ar gael ledled y byd felly mae'n bosib mynd y tu hwnt i Ewrop. Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dysgu yn Chile a Quebec. Mae'r rhaglen hon yn ffordd wych i gael blas ar ddysgu, ac i feithrin profiad gyrfaol a sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr i'w cynnwys yn eich CV.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Lleoliad gyda'r Cyngor Prydeinig
Lleoliad gwaith neu waith gwirfoddol
Dewis poblogaidd arall yw dewis lleoliad gwaith neu waith gwirfoddol ar eich Blwyddyn Dramor. Unwaith eto, mae'r opsiwn hwn yn ffordd wych i weithio mewn maes sydd o ddiddordeb i chi ac i ennill profiad a sgiliau cyflogadwyedd a fydd yn werthfawr ar gyfer eich CV. Mae ein myfyrwyr yn bachu ar amrywiaeth eang o gyfleoedd i gael profiad gwaith, er enghraifft: yn y diwydiant hamdden a thwristiaeth, y sector addysg, y sector busnes a chyllid, yn gyfieithwyr, a gyda chyrff anllywodraethol a sefydliadau elusenol eraill. Gweler yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i'w ddweud am eu profiadau ar y Flwyddyn Dramor i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiwn hwn a'r gwahanol fathau o gyfleoedd sydd ar gael.
Lleoliad astudio mewn Ysgol Ieithoedd
Dewis poblogaidd gyda'r myfyrwyr sy'n dechrau iaith gyda ni ab initio yw i dreulio rhan o'r Flwyddyn Dramor yn astudio mewn Ysgol Iaith achrededig mewn gwlad lle siaredir yr iaith a astudir ganddynt. Mae llawer o fyfyrwyr yn ystyried bod hwn yn opsiwn da i'w helpu i atgyfnerthu eu sgiliau iaith, canfod mwy am ddiwylliant leol, a rhyngweithio gyda dysgwyr eraill. Disgwylir i fyfyrwyr ddilyn rhaglen astudio ddwys (o leiaf 20 awr yr wythnos) sy'n cyfateb i un semester prifysgol.