Jasmine

Jasmine yw i, ac fe wnes i raddio mewn Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ar ôl ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ar ddiwrnod agored, syrthiais mewn cariad yn syth â'r dref hardd ar lan y môr, a’r profiad unigryw mae’n ei gynnig i fyfyrwyr. Ond heb amheuaeth, y brwdfrydedd, y cyfeillgarwch a'r croeso cynnes a gefais gan yr Adran Ieithoedd Modern - dyna wnaeth i mi ddewis Aberystwyth yn y pen draw.

Fel myfyriwr ieithoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth roeddwn yn rhan o gymuned ieithoedd glos. Mae’r dosbarthiadau bach yn golygu bod pob myfyriwr yn elwa ar brofiad dysgu agos-atoch a chefnogaeth amhrisiadwy gan y darlithwyr, a fe fyddan nhw yn bendant yn gwybod eich enw!

Mae astudio gradd anrhydedd cyfun mewn Ffrangeg ac Almaeneg yn Aberystwyth wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau iaith ym mhob maes ieithyddol. Fe wnes i hefyd gyfoethogi fy nealltwriaeth ddiwylliannol trwy fodiwlau ar Ffilm Ewropeaidd a Ffrangeg, Ffoaduriaid Almaeneg eu hiaith rhag Natsïaeth, a Llenyddiaeth Deithio Ffrangeg. Yn y modiwl olaf hwnnw, fi oedd un o enillwyr gwobr André Barbier am y traethawd gorau yn Ffrangeg, am fy nadansoddiad o lenyddiaeth deithio Ffrangeg yn Indo-Tsieina o safbwynt tir mawr Ffrainc ac o safbwynt brodorion Fietnam.

Ar fy mlwyddyn dramor astudiais mewn prifysgolion partneriaethol yn Perpignan yn ne Ffrainc a Salzburg yn Awstria. I mi, y ffordd orau o ddisgrifio fy mlwyddyn dramor yw mai dyma heb os y peth anoddaf i mi ei wneud erioed, ond hefyd y peth gorau a'r mwyaf buddiol. Mae'r cynllun cyfnewid astudio yn cynnig cipolwg ar fywyd myfyrwyr dramor yn ogystal â chyfle gwych i gyfathrebu â siaradwyr brodorol a gwneud ffrindiau o bob cwr o'r byd. Yn benodol, drwy gyfathrebu â’m cyfeillion Almaeneg newydd ar fy mlwyddyn dramor, fe wnes i ffrindiau am oes, yn ogystal â gwella fy hyder yn aruthrol wrth siarad Almaeneg ac atgyfnerthu fy sgiliau iaith.

Ers graddio o Aberystwyth yn ddiweddar, rwyf wedi cynllunio taith drên bum-wythnos o amgylch Ewrop, yn enwedig yn yr Almaen ac Awstria i ymweld â deuddeg ffrind o’m hamser yn Perpignan a Salzburg. Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio adeiladu ar y sgiliau a'r profiadau a gefais o’m gradd ieithoedd trwy fyw a gweithio mewn gwlad Almaeneg ei hiaith.