Carys
Carys yw i, ac fe wnes i raddio mewn Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dewisais astudio Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth oherwydd roeddwn i’n meddwl bod y cwrs yn gyfle gwych i ddysgu fwy o ieithoedd ac ehangu fy nealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol. Roeddwn i wir yn mwynhau'r amrywiaeth o fodiwlau yn ystod y tair blynedd diwethaf wrth i mi ddysgu cymaint am y diwylliant Ffrangeg a Sbaeneg. Roedd y modiwlau ar ffilmiau Sbaeneg ac am y Chwyldro yng Nghiwba yn rhai o fy hoff fodiwlau oherwydd roeddwn i’n mwynhau dadansoddi'r cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol. Roeddwn i hefyd yn hoff o’r modiwlau ar lenyddiaeth Ffrangeg oherwydd roedd hi’n galluogi fi i ystyried damcaniaethau ffeministaidd a dirfodol er enghraifft yr hunangofiannau Simone de Beauvoir a George Sand.
Roedd y flwyddyn tramor yn gyfle ardderchog i wella fy sgiliau iaith, yn enwedig yn Sbaeneg oherwydd dechreuais yr iaith ym Mhrifysgol. Astudiais yn Bordeaux a Sevilla oherwydd roeddwn i eisiau ffocysu ar gyfieithu yn benodol. Roedd hyn yn brofiad anhygoel wrth i mi weithio gyda siaradwyr rhugl yn Ffrangeg a Sbaeneg er mwyn cyflwyno cyfieithiad dilys. Yn Sevilla, roedd gen i lwyth o ffrindiau o gwmpas y byd ac felly dysgais nid dim ond am y diwylliannau Ffrangeg a Sbaeneg, ond hefyd America Ladin, yr Eidal, Yr Almaen, Gwlad Pwyl ac eraill. Roeddem ni’n siarad Sbaeneg gyda’i gilydd wrth iddo fod yr iaith roedd pawb yn gallu siarad ac felly roedd hyn yn gymhelliant enfawr a wnaeth helpu fi i wella yn fy mlwyddyn olaf.
Wrth i mi fod hyd yn oed mwy angerddol am ieithoedd a diwylliannau, penderfynais fod yn llysgennad ar gyfer yr adran ieithoedd modern yn ystod fy mlwyddyn olaf fel myfyrwraig israddedig. Roedd hyn yn gyfle gwych i gynnig cyngor a chymorth i fyfyrwyr oedd yn astudio ieithoedd yn Aberystwyth wrth rannu fy mhrofiad fel myfyrwraig. Yn ogystal â hyn, roeddwn i un o'r cynorthwywyr adrannol i gymheiriaid yn ystod yr ail a thrydedd flwyddyn ble roeddwn i ar gael ar e-bost i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon gan y myfyrwyr.
Fy mwriad nawr yw parhau astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth i wneud MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol wrth i mi fwynhau cymaint yn Aberystwyth. O ganlyniad o astudio ieithoedd eraill, rydw i nawr yn edmygu’r iaith Gymraeg a’r diwylliant hyd yn oed yn fwy ac mae’n ysbrydoliaeth enfawr i mi astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Roeddwn i hefyd yn ymddiddori yn y gwahanol ddulliau cyfieithu a chyfieithu llenyddiaeth. Hoffwn i barhau gyda fy astudiaeth yn fy hoff dre, Aberystwyth.