Astudiaeth ddoethurol yn yr Adran Ieithoedd Modern: Yr Adran Ieithoedd Modern, Prifysgol Aberystwyth,
Oherwydd bod gan yr adran cystal enw am gynnal ymchwil arloesol o safon ryngwladol, mae’n lle delfrydol i astudio am Ddoethuriaeth. Rydym yn cynnig arolygaeth a hyfforddiant ymchwil mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin, gyda ffocws ar bynciau megis:
- Ffrangeg: Yr Ymoleuo; Rhamantiaeth; llenyddiaeth a syniadau modern cynnar; llenyddiaeth fodern; llenyddiaeth gymharol; llenyddiaeth ac anthropoleg; ysgrifennu gan fenywod; astudiaethau rhywedd; ôl-drefedigaethedd; a barddoniaeth
- Almaeneg: llenyddiaeth, hanes a diwylliant yr 20fed ganrif; llenyddiaeth ac anthropoleg; Hanes cymdeithasol a diwylliannol menywod yr 20fed ganrif; ffoaduriaid rhag Sosialaeth Genedlaethol; Hanes Almaenig-Iddewig; ysgrifennu mewn alltudiaeth; astudiaethau cyfieithu, yn enwedig cyfieithu dramâu/deialog a thystiolaeth yr Holocost; Athroniaeth perfformio, dramâu Ewropeaidd ôl-1956, a'r Drasig Newydd
- Sbaeneg: Cymharu arddull nofelau Sbaeneg y 19eg ganrif; Llenyddiaeth drefedigaethol gymharol Gogledd Affrica; Hanes a diwylliant Ciwba; Ffilmiau Sbaeneg a Sbaeneg-Americanaidd; llenyddiaeth ac anthropoleg; Barddoniaeth America Ladin; Straeon byrion Sbaeneg 1990-2004; Rhywedd yn sinema Ciwba yn ystod y Chwyldro; gwrywdod a ffeministiaeth yng Nghiwba; Cynrychiolaeth o rywedd mewn ffilmiau Sbaeneg a Sbaeneg-Americanaidd
Mae gan Brifysgol Aberystwyth gyfleusterau rhagorol ac mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (un o bedair llyfrgell hawlfraint Prydain) wedi'i lleoli yn Aberystwyth. Gweler ein tudalennau staff am fwy o fanylion: Proffiliau Staff