Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr yr AHRC ac Astudiaeth PhD mewn Ieithoedd Modern

Mae Prifysgol Aberystwyth yn bartner ym Mhartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr (SWW DTP), ynghyd â saith prifysgol arall - Caerfaddon, Sba Caerfaddon, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Reading a Southampton, wedi'i hehangu gan rwydwaith o sefydliadau rhyngwladol, cenedlaethol a rhanbarthol o fri sy'n cynrychioli sectorau’r celfyddydau, treftadaeth, y cyfryngau a'r llywodraeth (gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth). Yn 2014, dyfarnwyd £14.2 miliwn o gyllid i'r Bartneriaeth gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i ddarparu hyfforddiant, datblygu sgiliau, ac arolygu gwaith uwchraddedigion gyda hyd at 50 o ysgoloriaethau doethurol yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn (ar draws Aberystwyth a'r sefydliadau partner eraill) dros gyfnod o bum mlynedd.

 

Bydd darpar ymgeiswyr i'r Consortiwm yn elwa o fewnbwn gan bartneriaid amlwg sy'n cynnwys yr Arnolfini, BBC, Cyngor Dinas Bryste, CyMAL, Cadw, English Heritage, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Watershed, Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown, Sefydliad Ymchwil Getty, Gwasanaethau Treftadaeth Caerfaddon, REACT, Twofour a nifer o bartneriaid academaidd tramor. Mae gan y partneriaid hyn arbenigedd academaidd a phroffesiynol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.