Cyflogadwyedd

dynes ifanc mewn cyfarfod tim yn y gwaith

Gall ennill gradd mewn un neu fwy o ieithoedd modern roi mantais fawr ichi dros raddedigion eraill wrth edrych am waith, a gall eich tywys i lawer o feysydd, yn cynnwys cyfieithu, dysgu a newyddiaduraeth.

Mae cyflogwyr yn dweud wrthom eu bod yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r cymwyseddau y mae graddedigion ieithoedd modern yn gallu eu cynnig. Yn ogystal â hynny, mae'r gallu i siarad dwy iaith neu fwy yn cynnig yr hyblygrwydd i astudio neu weithio dramor yn y dyfodol.

 

 

Mae’r ystadegau’n dangos bod graddedigion ieithoedd modern ymysg y rhai mwyaf cyflogadwy, ac mae’n graddau yn mynd â’n myfyrwyr ar draws y byd. Bydd cyfleoedd ichi mewn llawer o feysydd a gwahanol wledydd. Er enghraifft, daeth Rima Dapous yn bennaeth Addysg a Gwyddoniaeth yn y Cyngor Prydeinig yn Berlin, yr Almaen, ac mae Joe Goldstone yn gweithio ym maes marchnata yn Efrog Newydd. Ymunwch â’n hadran heddiw ac fe gewch ganfod y toreth o gyfleoedd sydd ar gael.

Mae llawer o’n graddedigion yn dechrau yn y byd gwaith ar lefel broffesiynol ac yn dal i ddatblygu ar ôl y brifysgol. Mae’r gallu i siarad dwy iaith neu fwy yn siŵr o roi mantais fawr iti dros raddedigion eraill a gall dy dywys i lawer o feysydd, yn cynnwys cyfieithu, dysgu a newyddiaduraeth.

Bydd gennych chi gyfleoedd gyrfaol gwych, fel mae'r ffigur o 95% o'n graddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio; 1% yn uwch nag ar gyfer graddedigion ieithoedd yn genedlaethol (HESA* 2018).

*Caiff ein ffigurau cyflogadwyedd eu cymryd o'r arolwg cenedlaethol o ymadawyr addysg uwch 2016-17 a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ym mis Mehefin 2018.

Mae’r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogaeth i’r holl fyfyrwyr a graddedigion. Gallwch gael gwybodaeth am yrfaoedd, ystyried eich opsiynau a siarad ag ymgynghorydd fydd yn gallu eich cynghori am gyfleoedd ym maes eich gradd neu faes arall o’ch dewis. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor ar baratoi CV, ymgeisio am swyddi, ac mae hefyd yn gyfle gwych i greu rhwydweithiau gyda recriwtwyr graddedigion mewn Ffeiriau Gyrfaoedd a digwyddiadau.

Yn ogystal â hynny, os ydych yn edrych am brofiad gwaith, gall y gwasanaeth gyrfaoedd roi cymorth ichi gyda pharatoi a threfnu’ch lleoliad gwaith.