Amdanom ni
Croeso gan Dr Guy Baron, Pennaeth Adran
Bu erioed gyfnod mor gyffrous i astudio ieithoedd. Gydag ieithoedd eraill yn cystadlu â Saesneg i fod ar y brig o ran iaith gyfathrebu byd-eang, mae mwy o resymau nag erioed i fod yn ddwyieithog neu'n aml-ieithog.
Mae astudio ieithoedd yn gyfle i ennill y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd yn yr 21ain ganrif. Yn ogystal, mae astudio ieithoedd yn meithrin gwell sgiliau cyfathrebu a hyblygrwydd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ddyfnach, ac mae'r rhain yn nodweddion a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr gartref a thramor.
Yn yr Adran Ieithoedd Modern, rydym yn cynnig ystod o gyrsiau i astudio Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg ac Eidaleg, fel gradd anrhydedd sengl neu gyfun yn achos Sbaeneg a Ffrangeg, neu radd anrhydedd gyfun yn achos Almaeneg ac Eidaleg. Rydym yn un o’r ychydig brifysgolion yn y DU sy’n cynnig y cyfle i gyfuno astudio tair iaith, a dwy o’r rheini ar lefel dechreuwyr. Gallwch hefyd gyfuno eich astudiaethau iaith gydag ystod eang o bynciau eraill yn cynnwys Hanes, Daearyddiaeth, Mathemateg, Saesneg, Drama, a llawer mwy.
Bydd Ieithoedd Modern yn Aberystwyth yn rhoi cyfle ichi ddatblygu fel ieithydd dros bedair blynedd o astudio am radd BA fel eich bod yn graddio â hyfedredd sy’n agos iawn at siaradwr brodorol yn eich dewis ieithoedd. Rydym yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd a’r gwerth sydd gan sgiliau iaith ar gyfer bywyd proffesiynol. Yn Aberystwyth, byddwch yn astudio iaith mewn modd arbenigol, law yn llaw â datblygu eich dealltwriaeth o gymdeithasau a diwylliannau cenedlaethol a’u lle yn y byd. Wrth ichi wneud cynnydd yn eich astudiaethau, cewch gyfle i ddilyn nifer o fodiwlau arbenigol a fydd yn cyfoethogi’ch gwybodaeth o faterion cenedlaethol a rhyngwladol mewn cymdeithas a diwylliant.
Mae ein gwaith ymchwil o safon uchel, a’n dulliau arloesol o ysbrydoli ac ysgogi dysgu ieithoedd yn y dosbarth, i gyd yn cyfoethogi ein gwaith addysgu. Daeth yr Adran Ieithoedd Modern yn y 3ydd safle yn y DU yn gyffredinol ym maes Ieithoedd ac Ieithyddiaeth yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024, yn 1af am Adborth ac yn 1af am roi Gwerth Ychwanegol. Rydym hefyd yn perfformio'n dda yn gyson yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr blynyddol. Yn yr Arolwg Cenedlathol o Fyfyrwyr 2023, cytunodd 100% o’r myfyrwyr bod staff yr Adran Ieithoedd Modern yn dda am egluro pethau.
Yn ogystal â’r profiad o fod yng nghanol yr ieithoedd yn yr Adran, bydd y flwyddyn dramor yn nhrydedd flwyddyn eich gradd yn golygu y byddwch yn cael eich trwytho yn niwylliant eich dewis iaith, a bydd hynny’n rhoi gwybodaeth werthfawr a hyder ichi.
Mae’r profiad a gaiff ein myfyrwyr yn ystod eu blwyddyn dramor (yn fyfyrwyr yn un o’r prifysgolion partner, yn athrawon iaith gyda’r Cyngor Prydeinig, neu mewn diwydiant) yn elfen ganolog o’n graddau ieithoedd modern. Mae’r flwyddyn dramor yn brofiad sy’n trawsnewid ac yn paratoi myfyrwyr yn effeithiol iawn ar gyfer dyfodol byd-eang. Rydym yn gweithio’n galed i’ch cefnogi wrth i ni eich paratoi ar gyfer eich cyfnod dramor, i’ch galluogi i fwynhau ac i fanteisio i’r eithaf ar y profiad.
Byddem wrth ein boddau yn eich croesawu ar ymweliad â’r Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth, er mwyn rhoi mwy o wybodaeth ichi am ein graddau ac i’ch cyflwyno i’n cymuned fywiog o athrawon, ysgolheigion a myfyrwyr.