Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUMA)
Dechreuodd y rhaglen hon, a anelir at Fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig, yn 2016. Bydd y rhaglen yn datblygu sgiliau dysgu'r uwchraddedigion sydd eisoes yn dysgu myfyrwyr yn eu hadrannau. Bydd yn rhoi sylfaen o arfer da i'ch gwaith dysgu ac yn ehangu'ch gwybodaeth a'ch arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd sy'n greiddiol i ddysgu. Mae'r rhaglen wedi'i hachredu drwy Advance HE, bydd y rhai sy'n cwblhau'r rhaglen yn dod yn Gymrodyr Cyswllt o Advance HE.
Gofynion Mynediad a Chofrestru
Mae'r rhaglen hon ar gael i uwchraddedigion ymchwil sy'n dysgu myfyrwyr. Argymhellwn fod y rhai sy'n cymryd rhan yn ymgymryd ag 20 awr o oriau cyswllt dysgu yn ystod y rhaglen - i roi cyfle iddynt ystyried eu harferion dysgu ac i gydweithwyr allu arsylwi ar eu gwaith dysgu.
Bydd gwybodaeth am garfan AUMA 2025-2026 ar gael yn fuan.
AUMA - y gofyniad am 20 awr o waith dysgu
Mae rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn argymell bod y cyfranogwyr yn ymgymryd ag 20 awr o waith dysgu yn ystod y flwyddyn pan gymerant y cwrs. Mae angen i'r rhai sydd ar y cwrs ymgymryd â digon o oriau dysgu i gael tair sesiwn arsylwi gan gydweithwyr ar eu gwaith dysgu, i gael cyfle i fyfyrio ar eu harferion dysgu, ac i ymgorffori awgrymiadau o'r rhain ac o'u CDP yn ôl i'w gwaith dysgu. Mae'r gofyniad hwn yn cyd-fynd â sefydliadau eraill yn y sector sy'n cynnal rhaglenni tebyg sy'n arwain at ddyfarnu AFHEA. Dyluniwyd AUMA i gydweddu â rhaglenni dysgu eraill CDSYA. Cymeradwywyd AUMA gan Advance HE; mae'r rhaglen yn cyd-fynd â PSF 2023. Nid yw AUMA yn gwrs ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau gwaith dysgu. Mae Ysgol y Graddedigion yn cynnig gweithdy sy'n rhoi cyflwyniad i ddysgu. Mae AUMA yn gymhwyster dysgu proffesiynol hyblyg ac ysgafnllaw sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr PhD sydd eisoes yn gwneud gwaith dysgu.
Cystadlu am Le ar Raglen AUMA
Derbynnir myfyrwyr i raglen AUMA drwy gystadleuaeth - nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac fel arfer fe geir llawer o ymgeiswyr, felly does dim sicrwydd o gael lle drwy wneud cais. Anelir y rhaglen at fyfyrwyr PhD, ac fe'i cymeradwywyd ar y ffurf honno gan yr AHE, felly rhoddir y flaenoriaeth i'r myfyrwyr hynny (ond mae croeso i staff y Brifysgol sy'n cynorthwyo â darpariaeth academaidd ymgeisio hefyd). Mae AUMA yn gymhwyster dysgu proffesiynol sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr PhD sydd wedi gwneud gwaith dysgu ar lefel Addysg Uwch ac a fydd yn parhau i'w wneud. Mae angen i'r ymgeiswyr roi manylion o'r gwaith dysgu a wnaethant yn y gorffennol ar lefel Addysg Uwch, a'r dysgu y maent yn disgwyl ei wneud yn y flwyddyn academaidd nesaf. Mae'r Panel Ceisiadau yn chwilio am dystiolaeth o brofiad blaenorol o waith dysgu ac am ymgeiswyr sy'n frwd dros ddatblygu eu sgiliau dysgu presennol ymhellach, ac mae'n rhoi lleoedd i'r rhai sydd fwyaf llwyddiannus wrth ddangos hynny yn eu ceisiadau.