Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Female student attending to her horse in the Lluest Equine Centre.

Gellir astudio pob cynllun gradd israddedig yn Adran Gwyddorau Bywyd yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn rhai cynlluniau gradd, mae dros hanner y modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Gallwch ddewis cyflwyno eich holl waith cwrs, yn cynnwys aseiniadau a chyflwyniadau llafar drwy gyfrwng y Gymraeg a chwblhau eich arholiadau ysgrifenedig yn Gymraeg, beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl. Mae’r Adran hefyd yn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn cael tiwtor personol a thiwtor traethawd hir sy’n gallu siarad yr iaith. Mae’r trefniadau addysgu hyn yn golygu bod ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael i fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd Cymraeg.

Mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol mewn sawl ffordd. Mae’r manteision hyn yn cynnwys:

  • gwell cyfleoedd swyddi
  • cael eich addysgu mewn grwpiau llai
  • bod yn rhan o gymuned Gymraeg gyfeillgar a chroesawgar.

Bydd yr holl fyfyrwyr sy’n astudio modiwlau cyfrwng Cymraeg yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth astudio cyfrwng Cymraeg y Brifysgol, werth hyd at £250 y flwyddyn. Ymhellach, mae llawer o gyrsiau gradd Adran Gwyddorau Bywyd yn gymwys am ysgoloriaethau israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd werth £1500 dros dair blynedd. I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau hyn ac i gael rhestr o’r cynlluniau gradd cymwys gweler gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/trwyrgymraeg