Dr Emma Davies

Dr Emma Davies

Sywddog Datblygu Ymchwil

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Emma ag YBA fel Swyddog Datblygu Ymchwil ar gyfer yr Adran Gwyddorau Bywyd ym mis Awst 2022. Cyn hynny, cwblhaodd Emma ei PhD mewn DLS, a oedd yn canolbwyntio ar ymchwil i fodelau amgen ar gyfer Clefyd Alzheimer, ac ymchwiliodd yn benodol i addasrwydd ymddygiadol a moleciwlaidd y ddafad, fel model anifail mawr. Mae Emma hefyd wedi gweithio fel Darlithydd Cysylltiol o fewn yr adran ac fel Cymrawd Cyfnewid Gwybodaeth gyda Cyswllt Ffermio.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Fel Darlithydd Cysylltiol, bu Emma yn addysgu myfyrwyr ar ystod o fodiwlau yn ymwneud ag ymddygiad anifeiliaid a swoleg, ac wrth weithio gyda Cyswllt Ffermio, ysgrifennodd Emma nifer o gyhoeddiadau technegol ar amrywiaeth o bynciau amaethyddol, gan gynnwys: effaith gwndwn llysieuol ar iechyd a pherfformiad ŵyn yn pori, dulliau o ganfod beichiogrwydd mewn gwartheg godro, cefnogi adar tir fferm a datblygu cadwyni cyflewni bwyd byr.

Addysg a phrofiad gwaith

Cwblhaodd Emma MSc mewn Gwyddor Ceffylau ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yna ar ôl cyfnod byr yn gweithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, cwblhaodd PhD yn yr Adran Gwyddorau Bywyd.

Profiad a gwybodaeth

Mae gan Emma wybodaeth sylweddol am ymchwil ôl-raddedig, cyllid ymchwil a chyfathrebu ymchwil yn y gwyddorau biolegol. Roedd hyn yn canolbwyntio ar asesu addasrwydd defaid fel model anifail mawr arall o glefyd Alzheimer. Yn dilyn nifer o rolau tymor byr eraill yn yr Adran Gwyddorau Bywyd, symudodd Emma i'r rôl datblygu ymchwil bresennol gydag YBA.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Rôl Emma yw cefnogi cyflwyno ceisiadau grant ymchwil, a darparu cefnogaeth gyda chwilio am gyfleoedd cyllid grant, drafftio achosion o gefnogaeth, cyfrifo costau, llenwi ffurflenni cais a helpu staff i ddeall gweithdrefnau grantiau ymchwil mewnol ac allanol.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Emma yn mwynhau gweithio ochr yn ochr â holl ymchwilwyr yr Adran Gwyddorau Bywyd, ac yn arbennig mae'n mwynhau bod y cyntaf i glywed am yr holl brosiectau ymchwil anhygoel sydd ar y gweill yn y Brifysgol.

Cyhoeddiadau

McBride, S & Davies, E 2023, 'Performance inconsistency in the ovine delayed-match-to -sample task', pp. 45.
Davies, ES, Morphew, RM, Cutress, D, Morton, AJ & McBride, S 2022, 'Characterization of microtubule-associated protein tau isoforms and Alzheimer’s disease-like pathology in normal sheep (Ovis aries): Relevance to their potential as a model of Alzheimer’s disease', Cellular and Molecular Life Sciences, vol. 79, no. 11, 560. 10.1007/s00018-022-04572-z
Williams, M, Davis, CN, Jones, DL, Davies, ES, Vasina, P, Cutress, D, Rose, MT, Jones, RA & Williams, HW 2021, 'Lying behaviour of housed and outdoor-managed pregnant sheep', Applied Animal Behaviour Science, vol. 241, 105370. 10.1016/j.applanim.2021.105370
Jones, RA, Davis, CN, Jones, DL, Tyson, F, Davies, E, Cutress, D, Brophy, PM, Rose, MT, Williams, M & Williams, HW 2021, 'Temporal dynamics of trematode intermediate snail host environmental DNA in small water body habitats', Parasitology, vol. 148, no. 12, pp. 1490-1496. 10.1017/S0031182021001104
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil