Mrs Devibala Kasinathan

Mrs Devibala Kasinathan

Lecturer in Healthcare Education (Registered Nurse - Adult)

Canolfan Addysg Gofal Iechyd

Manylion Cyswllt

Noder: Mae gwybodaeth ychwanegol neu manylach ar y fersiwn Saesneg o'r proffil hwn.

Proffil

Mae Devi Kasinathan yn Ddarlithydd Nyrsio Oedolion ar y rhaglen BSc Nyrsio.

Mae Devi yn nyrs gofrestredig ers dros 20 mlynedd. Am y rhan fwyaf o'i gyrfa, bu'n gweithio yn yr uned gofal critigol ac yn yr adran frys. Ei harbenigedd yw nyrsio gofal dwys, nyrsio trawma a nyrsio brys. Ar ôl cwblhau ei gradd Meistr mewn nyrsio pediatrig yn 2008, rhoddodd Devi ei bryd ar ddysgu myfyrwyr nyrsio diploma a BSc yn India.

Yn y gorffennol, bu Devi yn gweithio fel arweinydd tîm yn adran Damweiniau ac Achosion Brys ysbyty Bronglais. Mae hi'n ddarparwr cynnal bywyd uwch ardystiedig ar gyfer plant ac oedolion. Mae hi'n arbenigwr ar y Cwrs Craidd Nyrsio Trawma (TNCC). Mae hi hefyd yn aelod gweithgar o'r Tîm Ymateb i Argyfyngau Meddygol (MERIT). Mae hi wedi cymhwyso fel rhywun sy’n gallu adnabod a thrin digwyddiadau acíwt sy'n bygwth bywyd (ALERT).

Mae Devi yn gymwys iawn yn y rhan fwyaf o weithdrefnau'r adran Achosion Brys, megis brysbennu, trin mân anafiadau, pibellu gwythiennau, pigiadau yn y lwynau, paracentesis yr abdomen, draenio’r frest gan ddefnyddio techneg Seldiger, troi’n unionsyth, rheoli’r galon, cardiorefersiwn, gorddos, rheoli’r gwaith o adnabod sepsis, rheoli cetoasidosis diabetig, adnabod a rheoli strôc, asesu a rheoli risg yng nghyswllt cwympiadau, rheoli gorddos cyffuriau, a thriniaethau brys eraill.

Roedd Devi hefyd yn arwain archwiliadau adrannol a chyfarfodydd briffio timau. 

Ar hyn o bryd mae Devi yn gwneud ei thystysgrif addysgu ôl-raddedig mewn addysg uwch.