Uned Ymchil Asesu Lles ac Iechyd
Cyflwr cyn clefyd siwgr
Yn seiliedig ar amlder cyflwr cyn-diabetes yn Lloegr, amcangyfrifir bod dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru mewn perygl o ddatblygu’r clefyd siwgr neu diabetes.
Yn 2015, cychwynnodd Clwstwr Meddygon Teulu Gogledd Ceredigion ymyriad cyn-diabetes, trwy addysgu cleifion ynglyn â diwygio ffordd y fyw. Roedd yr ymyriad yn cynnwys ymgynghoriad personol 30-munud i’r rhai y gwelwyd bod ganddynt lefel uwch na’r lefel ddelfrydol o glwcos yn y gwaed, ond heb fod yn ddigon uchel iddynt ddioddef o’r clefyd. Cymerwyd mesuriadau màs corfforol, Mynegai Màs Corfforol (BMI), mesur cylchedd y canol, pwysedd gwaed a HbA1c (mesur glwcos y gwaed) yn yr ymgynghoriad cychwynnol, ac eto ar ôl 12 mis ac ar ôl 24 mis.
Dangosodd y data ar gyfer 292 o gleifion newid sylweddol yn y canlynol:
- Syrthiodd HbA1c o 43.9 mmol·mol-1i 42.8 mmol·mol-1 ar ôl 12 mis, ac i 42.7 mmol·mol-1 ar ôl 24 mis
- Syrthiodd BMI o 29.8 i 29.5 ar ôl 12 mis, ac i 29.4 ar ôl 24 mis
- Lleihaodd mesur cylchedd y canol 0.6 cm ar ôl 12 mis, ac 1.7 cm ar ôl 24 mis
- Ar ôl 24 mis, o’r 292 claf, roedd 19 wedi datblygu’r clefyd siwgr, roedd 154 yn dal yn y cyfnod cyn-glefyd, ac roedd 119 wedi mynd nôl i reolaeth glwcos gwaed normal
Yn ogystal â’r 292 o gleifion a gwblhaodd yr archwiliad dilynol 24-mis, fe gwblhaodd 592 o gleifion ychwanegol yr ymgynghoriad gwreiddiol a’r dilyniant 12 mis, ac yn achos y cleifion hyn:
- Syrthiodd HbA1c o 43.9 mmol·mol-1i 42.6 mmol·mol-1
- Datblygodd 17 y clefyd siwgr, arhosodd 358 yn y cyfnod cyn-glefyd, ac roedd 217 wedi mynd nôl at reolaeth glwcos gwaed normal
Mae’r canlyniadau’n cefnogi pwysigrwydd adnabod y clefyd yn gynnar ac ymyriadau addysgiadol yn achos y clefyd siwgr math II.